Neidio at y cynnwys

S4C

Sergi Arola

Sergi Arola

Daeth Sergi Arola i Fadrid o'i dref frodorol Barcelona ym 1997.

Gweithiodd ym Marcelona gyda rhai o feistri'r byd arlwyo gan gynnwys Ferran Adria prif gogydd El Buli.

Dechreuodd ei yrfa yn Madrid mewn bistro bychan yn Chamartin mewn cegin nad oedd ddim ond 8 medr sgwâr!!

Bu i'w steil goginio, nad oedd wedi ei weld o'r blaen yn y dref, sbarduno diddordeb a dilynwyr yn syth.

Ym 1998 cafodd ei seren Michellin gyntaf ac ym mis Chwefror 2000 symudodd i westy Miguel Angel lle'r agorodd ei fwyty 'La Broche Sergi Arola' ac ennill ei ail seren Michellin ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn.


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales