Sergio Rifugio

Angerdd am goginio, bwyd, gwin a phopeth sy'n gysylltiedig â'r byd gastronomig oedd tu ôl i ddechrau cwmni Cooking Holidays i Sergio Rufigio.
Mae Sergio wedi bod â chysylltiad â'r diwydiant twristiaeth ers dros 14 mlynedd.
Os am fentro i Sbaen ac ardal Andalucía a chael profiad coginio bythgofiadwy yna ewch i safle www.cookingholidayspain.com am fwy o fanylion.
Enw llawn a swydd?
Sergio Rifugio - Cooking Holiday Spain y cwmni cyntaf i arbenigo mewn digwyddiadau bwyd a gwin yn Sbaen.
Pryd wnes di ddechrau coginio a beth oedd yr ysgogiad?
Dwi wedi bod yn coginio ers pan yn bump oed a fy mam oedd fy mentor. Roedd bwyd fy mam yn syml, onest, blasus a hael a dyna'n union yw sylfaen ein dosbarthiadau meistri ni.
Beth yw dy gyngor i gogyddion ifanc?
Coginio â chariad
Hoff rysáit/ pryd?
Linguine Carbonara
Petai ti'n sbeis/berlysieuyn beth fydda ti?
Basil
Petai ti'n cael dy roi ar ynys bellennig pwy fasa ti ishe fel cwmni a pa fwyd?
Fy ngwraig a choes o jamon.