Rhaglen 1
Mae'r daith i Sbaen yn cychwyn yn Rownd Un. Mae Llandrillo a Chaerfyrddin yn fôr o liw a thon ar ôl ton o aroglau hyfryd yn llenwi'r ffroenau!
Cogyddion amatur o Gymru yn brwydro i gael lle yn rownd 2 ac yna'r gobaith wedyn o gael sedd ar yr awyren draw i Sbaen. Dod â starter neu bwdin hefo nhw oedd y sialens ac yn wir roedd tipyn o amrywiaeth, o beli cig Sbaenaidd i tapas i bwdin siocled!!
Tasg hynod o anodd oedd dewis, ond ar ôl gorffen y gwledda roedd gan Dudley ei ddeuddeg!!
Gwyliau Bwyd a Diod yn Sbaen
Marchnad Fwyd La Boqueria
Pryd: Yn ddyddiol, ar wahân i ddydd Sul
Lle: Marchnad fwyd La Boqueria, Barcelona
Mae stondinau diddiwedd La Boqueria, sydd oddi ar Las Ramblas, yn cynnig pob mathau o ddanteithion, gyda sawl amrywiaeth o olewydd, chorizo, caws, pysgod, ham a mwy ar gael.
Ni fuasai trip i Barcelona'n gyflawn heb ymweliad â'r farchnad fwyd brysur hon.
Ffair Bwyd Môr o Grove
Pryd: pythefnos cyntaf mis Hydref (yn flynyddol)
Lle: O Grove, Galicia (El grove)
Mae Fiesta de Exaltación del Marisco yn denu dros 220,000 o bobl yn flynyddol, a chaiff ei gydnabod fel y lle i ganfod bwyd môr gorau Ewrop.
Mae'r ŵyl pythefnos yn cynnwys Feiramar, un o ddigwyddiadau masnach bwyd môr mwyaf sefydledig Ewrop tra bod fiestas eraill ar gael sy'n dathlu cregyn gleision a thorbytiaid yn unig!
Gyda chyfle i flasu'r gwahanol fwydydd a hyd yn oed bachu bag anrheg am ddim sy'n llawn cregyn gleision, crancod a dalfa'r dydd, mae'r ŵyl O Grove yn symffoni i'r synhwyrau ac yn nefoedd i garwyr bwyd môr.
Ffair Fwyd San Sebastiân
Pryd: mis Tachwedd (yn flynyddol)
Lle: Palacio de Congresos del Kursaal, San Sebastian
Cyfle i weld cogyddion gorau Sbaen yn cystadlu am fedalau, ac yn defnyddio'r cynnyrch gorau bosib i greu campweithiau coginiol.
Mae'r ffair yn agor gyda cystadleuaeth paella, a chaiff y cystadleuwyr eu beriniadu ar flas, cyflwyniad ac amseriad, tra bod sialensiau eraill yn cynnwys paratoi bwydlen o fwydydd enwocaf y wlad, a choginio gyda bwyd môr.
Gŵyl yr Olewydden ac Olew Olewydd Baena
Pryd: mis Tachwedd (yn flynyddol)
Lle: Baena, Andalucía
Mae tref Baena yn Andalucía yn cynnal y ffair tri-diwrnod Las Jornadas del Olivar y el Aceite (Siwrnai'r Olewydd a'r Olew) yn flynyddol, ac mae'n gyfle i ddathlu popeth sy'n ymwneud ag olewydd ac olew olewydd.
Mae'r ffair yn cael ei chynnal yn ystod cynhaeaf yr olewydd, ac mae cyfle i ddysgu am sawl agwedd o'r olewydden, o fuddion iechyd i ddefnyddiau coginio. Mae yno hefyd arddangosfeydd coginio a sesiynau blasu.
Ffair Tapas Seville
Pryd: diwedd mis Chwefror, cychwyn mis Mawrth (yn flynyddol)
Lle: Palacio de Congresos y Exposiciones, Seville
Am bedwar diwrnod mae dros hanner cant o fariau Tapas Seville yn gwahodd pobl i ddod i flasu eu tapas gyda gwydriad o sieri neu cerveza.
Gŵyl Bwyd a Gwin Nerja
Pryd: diwedd mis Mawrth, yn flynyddol
Lle: Nerja, Andalucía
Cyfle i fwynhau danteithion megis ham Serrano, caws manchego, olewydd, chorizo, calamari, paella a phob mathau o ddanteithion eraill yn nhref arfordirol Nerja, 'balconi Ewrop'.
Gŵyl Olewydd Mora
Pryd: penwythnos olaf mis Ebrill, yn flynyddol
Lle: Mora del Toledo
Mae'r ŵyl hon yn llawn cystadlaethau, marchnadoedd a sesiynau blasu olewydd, tra bod cyfle hefyd i gael blas ar ddiwylliant Andalucía gyda cherddoriaeth, dawnsio, rhedeg teirw a hyd yn oed cystadleuaeth taflu cerrig.
Gŵyl y Malwod
Pryd: mis Mai yn flynyddol
Lle: Gerddi Camps Elisis, Lleida.
Mae'r ŵyl bwyta malwod hon wedi bod yn disgwydd ers dros chwarter canrif, a heddiw mae dros 12 tunnell o falwod yn cael eu bwyta dros y tri diwrnod.
Gŵyl Seidr Nava
Pryd: mis Gorffennaf, yn flynyddol
Lle: Nava, Castile a Leon
Tri diwrnod yn llawn cystadlaethau, dathlu a phartïon!
La Tomatina
Pryd: 27Awst, yn flynyddol
Lle: Bunyol, Valencia
Bob blwyddyn mae dros 30, 000 o bobl yn ymgynnull ar gyfer brwydr domatos mwyaf y byd. Mae dros 125,000 kg o domatos yn cael eu taflu mewn ychydig dros ddwy awr, ac mae'r canlyniadau'n anniben, â dweud y lleiaf!
Gŵyl Gwin a Cava Catalunya
Pryd: mis Medi, yn flynyddol
Lle: Maremagnum
I gyd-daro gyda chynaeafu'r grawnwin, mae dros 400 o arddangoswyr, gan gynnwys cynhyrchwyr a masnachwyr, yn cyflwyno eu gwinoedd a'u cava yn Maremagnum. Mae amrywiaeth enfawr o winoedd ar gael gan gynnwys rosés o ardal Alt Penedés, a gwinoedd coch o Priorat.
Ffair Fwyd Ponferrada
Pryd: mis Medi, yn flynyddol
Lle: Ponferrada
Ffair sy'n dathlu bwydydd traddodiadol yr ardal, gyda stiwiau o ffacbys a chorizo, pasteiod trwchus a chig mochyn wedi ei halltu i gyd ar gael.
www.ponferrada.org/tourism/ocio_ferias.php#tapas
Gŵyl Paella Sueca
Pryd: mis Medi, yn flynyddol
Lle: Sueca, ger Valencia
Cystadleuaeth Reis a Paella Rhyngwladol sy'n denu cystadleuwyr ardraws Sbaen. Am ddeg diwrnod mae'r dref yn llawn dawnsio, gemau, adrodd straeon a bwyta gydag uchafbwyntiau'n cynnwys Noswaith y Paella a Gŵyl Ryngwladol Tân Gwyllt. Mae'r Gystadleuaeth Paella Rhyngwladol yn cael ei chynnal ar ddiwrnod olaf yr ŵyl.