Neidio at y cynnwys

S4C

Rhaglen 5

Dau wedi gadael y Casa a'r chwech sydd ar ôl yn cael trip bach i ffatri jamón leol.

Cegau agored wrth iddynt weld y miloedd o goesau moch yn hongian ac yna'n glafoerio wrth weld Carmen Mora Torres yn paratoi selsig â llaw. Bore a hanner, ac wrth gwrs does yr un trip yn hwyl i gyd, nôl â nhw i'r Casa ac ie, sialens yn eu disgwyl!!

Sialens timau, a Wendy, Huw a Sion yn herio Llŷr, Daniel ac Aneira. Paratoi pryd gyda darn o borc, paratoi selsig ac un syrpreis bach arall gan Dudley, creu tortilla gydag ymennydd mochyn yn gynhwysyn ychwanegol!!

Roedd wynebau pawb yn bictiwr, ac un tîm yn rhagori. Dim ond un oedd yn saff fodd bynnag, ie, tric bach arall gan Dudley!

Pump yn wynebu her pwdinau, a'r churros siocled gwaetha yn gorfodi dau i hel eu pac am adre!!

Jamón Serrano - Ham y Mynydd

Mae'r ham unigryw yma o fochyn gwyn yn cael ei gynhyrchu mewn sawl ardal yn Andalucía, a chaiff ei adnabod fel jamón serrano, neu ham y mynydd (daw'r enw o'r gair sierra sef y gair Sbaeneg am gadwyn o fynyddoedd).

Fe ddaw'r ham gorau o bentref uchaf Sbaen, sef Trevélez, sy'n gorwedd ar lethr ddeheuol y Sierra Nevada, rhyw 5575 troedfedd (1700m) uwchlaw lefel y môr.

Trwy gydol y flwyddyn mae gwyntoedd sych yn chwythu trwy'r ardal yma, ac mae'r aer yn eithriadol o lân a chlir.

Wedi i'r moch gael eu lladd, mae eu coesau'n cael eu halltu gyda halen môr bras, cyn cael eu golchi ac yna eu sychu am 12 mis, rhai am 20 neu 32 mis.

Mae'n bosib gwahaniaethu rhwng ham Serrano o fochyn gwyn, a ham o fochyn du Iberaidd.

Mae ham y mochyn gwyn yn llydan ac yn dew ac wedi ei siapio'n debyg i gitâr, tra bod ham y moch Iberaidd yn deneuach ac yn hirach, ac â siâp V sy'n debycach i siâp ffidil.

Mae pentrefi Cumbres Mayores, Cortegana a Jaburgo yn nhalaith Heulva yn Andalucía hefyd yn enwog am eu cig moch.

Mae'r math gorau (a'r drytaf) o fochyn, sef y Pata Negra (Carn Ddu), yn cael ei fwydo ar fes yn unig, ac fe ddywedir bod hinsawdd y bryniau hyn yn berffaith ar gyfer y coed derw sy'n darparu'r mes i'r moch.

Caiff y cynnyrch gorffenedig ei sleisio'n denau a'i fwyta'n amrwd fel tapas, ac er y dywedir na ddylid defnyddio'r hamiau o'r safon uchaf ar gyfer coginio, mae sawl rysáit blasus iawn ar gael ar gyfer coginio Jamón Serrano.

Pwdinau yn Sbaen

Mae rhanbarthau Sbaen wedi cael eu dylanwadu'n fawr gan wahanol ddiwylliannau dros y canrifoedd, o'r Rhufeiniaid, a gyflwynodd rawnwin ac olewydd i'r ardal, i'r Arabiaid, a ddaeth a gwahanol fathau o ffrwythau, cnau a sbeisys.

Mae llawer o bwdinau mwyaf adnabyddus Sbaen, megis fflan neu crema catalana, wedi eu selio ar y cwstard hufennog a chyfoethog sy'n gynnyrch o laeth ac wyau o'r ansawdd uchaf. Mae gan bob tref Sbaenaidd Pastelería, sy'n gwerthu pob mathau o ddanteithion melys, megis magdalenas (cacennau bach ).

Er hyn, mae'r Sbaenwyr yn dueddol o gael salad ffrwythau i bwdin, ac yn cadw'r danteithion a'r teisennau ar gyfer brecwast a meridiana (hanner dydd).

Mae churros, darnau hir o does melys sy'n cael eu bwyta gyda llond cwpan o siocled wedi ei feddalu, yn ffefryn amser brecwast ond dydy e byth yn ymddangos ar fwydlen bwdin, tra bod merienda, sy'n debyg i amser te, yn amser i fwynhau'r danteithion a'r teisennau yma rhwng y prif brydau bwyd.

Dyma i chi rai enghreifftiau o bwdinau Sbaenaidd:

Arroz con Leche: Pwdin reis, sy'n cael ei weini mewn cartrefi ar hyd a lled Sbaen. Mae sawl amrywiaeth ar gael, a gall gynnwys rhesins, mêl, sinamon, oren neu lemwn.

Crema Catalana: Pwdin sy'n debyg iawn i'r Crème Brulee, er nad ydyw mor drwm na chyfoethog.

Ensaimada: Rholiau toes ysgafn sy'n cael eu llenwi gyda jam neu hufen a'u bwyta i frecwast.

Fflan: Cwstard wy fanila gyda saws caramel ar ei ben. Mae'n boblogaidd dros ben, ac mae'r rysáit clasurol yn cael ei addasu o ardal i ardal, yn Seville, er enghraifft, mae sudd oren ffres yn cael ei ychwanegu i'r gymysgedd.

Magdalenas: Teisennau bach melys, ysgafn o Aragon sy'n cael eu bwyta i frecwast.

Mantecado: Bisgedi briwsionllyd sy'n cael eu bwyta'n draddodiadol yn ystod y Nadolig.

Polvorón: Bisgedi almon briwsionllyd. Roedd y rhain, ynghyd a theisennau a melysion eraill megis tocino de cielo a yemas, yn arfer cael eu cynhyrchu gan leianod, a oedd yn cael yr wyau am ddim gan wneuthurwyr gwin a sieri. Roedd y lleianod yn gwerthu'r teisennau a'r melysion i godi arian ar gyfer y lleiandai, ac mae'r traddodiad yn dal yn gryf yn Andalucía heddiw.

Torta de Santiago: Teisen draddodiadol o sinamon, wyau ac almonau o ogledd Sbaen, sydd wedi ei haddurno gyda chroes Sant Iago.

Turrón: Melysfwyd traddodiadol o amser y Mwriaid, sy'n cynnwys almon a mél ac yn debyg iawn i nougat.


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales