Neidio at y cynnwys

S4C

Pwdin

Pwdin Reis Saffrwm gyda Charamel Oren wedi Llosgi

Cynhwysion
500ml llaeth
500ml hufen
120g reis pwdin
90g siwgr
1 pod fanila
Pinsiad o saffrwm

Dull:

  1. Dod â'r llaeth, hufen, fanila, saffrwm a'r siwgr i'r berw.
  2. Ychwanegu'r reis a dod a'r gymysgedd i'r berw cyn gostwng y tymheredd a choginio'r reis am 30 munud (neu yn ôl cyfarwyddiadau'r pecyn). Gadael i oeri cyn ei osod yn yr oergell.

Ar gyfer y stribedi oren:

  1. Dod â 250ml o ddŵr, 200g o siwgr, a'r stribedi oren i'r berw, nes bod y cymysgedd wedi tewhau.
  2. Tynnu'r stribedi allan o'r gymysgedd a'u gosod ar wahân i'w oeri.
Cynhwysion
Croen 2 oren mewn stribedi julienne
60 ml Grand Marnier
120g siwgr
400ml sudd oren ffres wedi ei leihau i 300ml
20g menyn di-halen
200g siwgr
250ml o ddŵr ar gyfer y stoc surop

Ar gyfer y saws:

  1. Cymysgu'r siwgr yn gyson ar wres isel nes ei fod wedi meddalu.
  2. Ychwanegu'r sudd oren ychydig ar y tro yna ychwanegu'r Grand Marnier a'i goginio am oddeutu 10 munud.

Gweini:

  1. Cyn ei weini, ychwanegu menyn i'r saws, mae hwn yn rhoi sglein i'r gymysgedd.
  2. Gweini'r reis mewn llwyau cawl Tsieineaidd gyda llond llwy de o'r saws oren drosto, a stribed o'r croen oren wedi ei osod ar ei ben.

Iogwrt gyda Mefus a Rhiwbob

Cynhwysion
100g rhiwbob
100g mefus
100g siwgr
25 ml dŵr

Dull:

  1. Torri'r riwbob yn stribedi tenau 2cm o hyd. Chwarteru'r mefus.
  2. Rhoi'r cynhwysion i gyd mewn sosban a'u coginio'n araf nes bod y ffrwythau'n dyner. Gosod i oeri mewn oergell.
Cynhwysion
1 pod fanila
100g siwgr
160ml hufen chwipio
800ml llaeth sgim
¼ paced burum iogwrt

Ar gyfer yr iogwrt:

  1. Rhoi'r cynhwysion i gyd heblaw'r burum mewn sosban a dod ag e i'r berw.
  2. Oeri'r gymysgedd ac ychwanegu'r burum - mae'n rhaid i'r gwres fod yn is na 45°C cyn gwneud hyn.
  3. Hidlo'r gymysgedd a'i gosod mewn gwydrau gwirod (shot glasses). Llenwch y gwydrau i fod yn 3/4 llawn a gadewch i setio mewn lle cynnes am 6 awr.
  4. Wedi iddynt setio, gosod y gwydrau i oeri mewn oergell.
  5. Ychwanegu'r ffrwythau i'r gwydrau cyn eu gweini.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales