Pysgod
Almejas - Cregyn Bylchog
Cynhwysion
1 kg cregyn bylchog
250g chorizo, wedi ei sleisio
½ winwnsyn
2 ewyn garlleg
3 llwy fwrdd olew olewydd
150ml sieri sych
1 llwy fwrdd persli
1 kg cregyn bylchog
250g chorizo, wedi ei sleisio
½ winwnsyn
2 ewyn garlleg
3 llwy fwrdd olew olewydd
150ml sieri sych
1 llwy fwrdd persli
Dull:
- Cynhesu'r olew a choginio'r winwnsyn hyd nes ei fod yn feddal.
- Ychwanegu'r garlleg a'i goginio am funud, cyn ychwanegu'r chorizo a'i goginio am funud yn rhagor.
- Ychwanegu'r cregyn bylchog a'r sieri.
- Gorchuddio a choginio'r cyfan hyd nes bod y cregyn yn agor.
- Ysgeintio'r pryd gyda phersli a'i weini.
Tiwna
Cynhwysion
50ml saws soi
60ml olew blodyn yr haul
155g tiwna ffres wedi ei dorri'n giwbiau maint 1 ¼ modfedd
2tbs hadau sesame
50ml saws soi
60ml olew blodyn yr haul
155g tiwna ffres wedi ei dorri'n giwbiau maint 1 ¼ modfedd
2tbs hadau sesame
Dull:
- Paratoi'r marinâd drwy gymysgu'r saws soi a'r olew blodyn yr haul gyda'i gilydd. Ychwanegu'r tiwna a'i adael i farinieddio am o leiaf 12 awr.
- Bwydo'r tiwna ar sgiwer a rhoi hadau sesame ar ben pob un.
- Ei weini'n syth.
Brwyniaid mewn crwst
Dull:
- Rholio'r toes i dair haenen 20cm x 15cm, gan sicrhau eu bod wedi ei rholio'n denau iawn (mae hyn yn bwysig!). Rhoi'r toes yn yr oergell i oeri am oddeutu 30 munud.
- Wedi hanner awr, gosod y toes ar y bwrdd a'i frwsio ag ychydig o ddŵr. Gosod y brwyniaid ar y toes mewn rhesi, gan adael tua 2cm rhwng bob rhes. Brwsio o amgylch ymyl y toes gyda'r ŵy cyn rhoi'r ail ddeilen o does pwff ar ei ben a'i selio. Brwsio'r ail haenen does gyda dŵr a gosod y brwyniaid rhwng y rhai ar yr haenen gyntaf. Brwsio ymyl yr ail haenen does gyda'r ŵy.
- Gosod yr haenen olaf ar ben y brwyniaid a'i selio, cyn rhoi'r toes yn y rhewgell i setio am 20-30 munud pellach.
- Wedi iddynt setio, torri'r toes mewn i stribedi tenau iawn cyn eu gosod ar hambwrdd pobi a'u crasu mewn popty 200°C am 8 munud.
- Wedi gorffen yr olew a'r cymysgu, ei flasu a'i sesno gyda halen mân, yna rhoi llwy de o ddŵr poeth i'w sadio. Ei gadw yn yr oergell a'i orchuddio'n dynn.
Cynhwysion
Pinsiad o saffrwm
2 llwy de o sudd lemwn
1 ewyn garlleg wedi ei falu
1 ŵy mawr
150ml o olew olewydd ysgafn
Pinsiad o saffrwm
2 llwy de o sudd lemwn
1 ewyn garlleg wedi ei falu
1 ŵy mawr
150ml o olew olewydd ysgafn
Mayonnaise Saffrwm:
- Rhoi'r saffrwm mewn powlen fach gyda sudd y lemwn a'i adael i socian am 5 munud. Cymysgu'r garlleg i mewn a'i socian am 5 munud arall. Gwahanu'r ŵy ac ychwanegu'r melynwy i'r saffrwm.
- Chwisgo'r gwynnwy gyda fforc am tua 5 eiliad yna ychwanegu ei hanner i mewn at y saffrwm a gwaredu'r gweddill - fe fydd y gwynnwy yn ei wneud yn fwy cadarn.
- Chwisgo'r gymysgedd saffrwm ac yna'n araf ychwanegu'r olew, hanner llwy de ar y tro hyd nes eich bod wedi cymysgu oddeutu ¼ o'r olew i mewn. Wedi hyn, fe ellwch chi ychwanegu'r olew fesul llwy de hyd nes bod hanner yr olew wedi mynd. Wedi cyrraedd y pwynt yma fe ellwch chi arllwys yr olew i gyd i mewn yn araf gan ei chwisgo'n ddi-dor hyd nes ei fod wedi emylsio. Os yw'r gymysgedd ar unrhyw adeg yn edrych fel ei fod am wahanu, fe ellwch chi ychwanegu un llwy de o ddŵr poeth a'i chwisgo am 15 eiliad.
- Wedi gorffen yr olew a'r cymysgu, ei flasu a'i sesno gyda halen mân, yna rhoi llwy de o ddŵr poeth i'w sadio. Ei gadw yn yr oergell a'i orchuddio'n dynn.
Gambas al Ajillo - Corgimychiaid mewn Garlleg
Cynhwysion
1 lb corgimychiaid
4 gewyn mawr o arlleg, wedi eu torri'n fân
1 llwy fwrdd paprika melys
1 llwy de chilli sych
60-90ml sieri sych
¼ cwpan olew olewydd gwyryf pur
3 llwy de persli ffres - wedi ei dorri'n fân
1 lemwn - ar gyfer y sudd
1 lb corgimychiaid
4 gewyn mawr o arlleg, wedi eu torri'n fân
1 llwy fwrdd paprika melys
1 llwy de chilli sych
60-90ml sieri sych
¼ cwpan olew olewydd gwyryf pur
3 llwy de persli ffres - wedi ei dorri'n fân
1 lemwn - ar gyfer y sudd
Dull:
- Os ydych chi'n dymuno fe ellwch chi blicio cragen y corgimychiaid i ffwrdd cyn eu coginio.
- Cynhesu'r olew mewn padell ffrio dros wres canolig.
- Ychwanegu'r garlleg a'r chilli sych a'i ffrio am oddeutu munud, hyd nes eu bod wedi troi'n lliw euraidd.
- Codi'r gwres ac ychwanegu'r corgimychiaid, sudd lemwn, sieri a paprika.
- Cymysgu'r cyfan yn dda a'i ffrio yn ysgafn am oddeutu 3 munud hyd nes bod y corgimychiaid wedi troi'n binc ac wedi cyrlio.
- Symud y cyfan oddi ar y gwres a gosod popeth ar blât cynnes a'i weini'n syth.
- Sesno gyda halen a phupur ac ysgeintio â phersli.