Neidio at y cynnwys

S4C

Cig

Croquette Sbaeneg

Cynhwysion
1 llwy bwdin olew olewydd
2 llwy bwdin o flawd
¼ litr o laeth
1 ŵy
100g briwsion bara
Nytmeg
150g ham, wedi ei dorri'n fân
Halen

Dull:

  1. Cynhesu'r olew mewn padell ffrio. Unwaith y mae'n boeth, ei symud oddi ar y gwres ac ychwanegu'r blawd. Cymysgu gyda llwy bren hyd nes bod past esmwyth yn ffurfio.
  2. Gosod y badell yn ôl ar y gwres, ychwanegu'r llaeth yn araf deg gan ei gymysgu hyd nes ei fod wedi coginio ac yn esmwyth.
  3. Ychwanegu'r nytmeg, pinsiad o halen a'r ham. Coginio'r gymysgedd hyd nes ei bod wedi tewhau.
  4. Unwaith mae'r gymysgedd wedi tewhau digon, rhoi'r cwbl mewn powlen a'i adael i oeri.
  5. Curo'r ŵy.
  6. Unwaith mae'r gymysgedd wedi oeri, cymryd llond llaw a siapio'r gymysgedd i siapiau hirgrwn (croquette).
  7. Troi pob croquette yn y gymysgedd ŵy ac yna yn y briwsion bara.
  8. Ffrio'r croquette mewn padell gyda digon o olew i'w gorchuddio, hyd nes eu bod wedi crasu ac wedi troi'n lliw euraid.
  9. Draenio ar bapur cegin a'u gweini yn syth.

Porc gyda Gwin Málaga, Almonau a Rhesins

Cynhwysion
800g porc, wedi ei dorri'n gylchoedd
1-2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 winwnsyn canolig wedi ei dorri'n fân
2 ewyn o arlleg wedi eu torri'n fân
75g rhesins Málaga
75g tafelli almonau, wedi tostio'n ysgafn
250ml gwin moscatel Málaga (neu sieri)
100ml brandi o Jerez
Halen a phupur

Dull:

  1. Sesno'r porc gyda halen a phupur.
  2. Mewn padell, cynhesu'r olew a ffrio'r porc dros wres canolig am 2-3 munud, gan ei droi a'i frownio. Tynnu'r porc o'r badell a'i rhoi ar blât ar un ochr.
  3. Yn yr un badell, ffrio'r winwns yn araf am tua 10 munud, hyd nes yn feddal ac wedi troi'n lliw euraidd. Ychwanegu'r garlleg.
  4. Mor fuan â bo arogl coginio, ychwanegu'r rhesins, y cnau almon, gwin, brandi, halen a phupur. Mudferwi'r cyfan am 15 munud.
  5. Dychwelyd y porc yn ôl i'r badell a'i fudferwi am tua 5 munud hyd nes bod y cig wedi ei goginio'n dda.

Salad Caws Gafr, Ffa Cynnes a Chorizo

Cynhwysion
75g o Cubetti di Chorizo
1 llond llwy fwrdd o sieri melys
100g o gaws gafr wedi ei friwsioni
300g ffa llydain wedi eu berwi
Dyrniad bach o bersli
3 llond llwy fwrdd o olew olewydd

Dull:

  1. Coginio'r chorizo yn yr olew olewydd hyd nes ei fod yn grimp ac yn lliw euraid.
  2. Ychwanegu'r sieri melys a'i chwisgio i wneud dresin.
  3. Rhoi'r ffa cynnes yn y dresin gyda'r chorizo ac ychwanegu'r persli a gwasgaru'r caws gafr dros y cyfan.
  4. Ei weini mewn powlenni gyda bara ffres.

Albondigas

Cynhwysion
225g briwgig eidion
1 nionyn, wedi ei dorri'n fân
2 ewyn garlleg, wedi eu torri'n fân
1 llwy fwrdd olew olewydd
2 llwy fwrdd sieri sych
250g tomatos wedi eu torri (o dun)
1 llwy fwrdd pimenton picante (paprika sbeislyd Sbaenaidd)
Halen a phupur grawn ffres
Pinsiad o siwgr
Teim ffres fel garnais

Dull:

  1. Gosod y briwgig mewn powlen ac ychwanegu'r nionyn, garlleg, halen a phupur.
  2. Cymysgu'n dda a'i siapio mewn i 12 pêl cig bach cadarn.
  3. Cynhesu'r olew mewn padell ffrio fawr a choginio'r peli am 5 munud, gan eu troi'n gyson nes eu bod wedi brownio.
  4. Ychwanegu'r tomatos, sieri, pimenton a siwgr, gyda halen a phupur i flasu.
  5. Gorchuddio a choginio'r cyfan yn ysgafn am 15 munud, nes bod y tomatos yn bwlp a'r peli wedi coginio.
  6. Gweini yn boeth.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales