Mae S4C wedi noddi cynhadledd arbennig i drafod newid hinsawdd, Pethau'n Poethi: Her Newid Hinsawdd, a gynhaliwyd yn Llandrindod. Nod y gynhadledd uchelgeisiol yma a drefnwyd gan Weithgor Iaith Gymraeg y Sector Amgylcheddol oedd rhannu gwybodaeth ac arfer gorau ym meysydd cynaliadwyaeth a materion amgylcheddol.
Fe soniodd Tim Hartley sut y mae S4C bellach yn gwmni carbon niwtral a dangosodd Lowri Gwilym ddetholiad o raglenni a gomisiynwyd fel rhan o flwyddyn o raglenni y Sianel sy'n ymwneud â thirwedd, natur a'r amgylchedd. Ymysg cyfranwyr eraill y gynhadledd roedd academyddion, newyddiadurwyr a mudiadau megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cwmni Ynni Gwynt Cymru a ‘Cynnal Cymru.’
Yn ystod 2008, mae S4C yn darlledu ystod eang o raglenni sy'n ymwneud â'r amgylchedd, ac yn wir yn anelu at fod yn sefydliad mwy cyfeillgar i'r amgylchedd yn ei swyddfeydd a'i gweithredu.
Mae Apêl S4C 2008, Gwyrdd, yn anelu at helpu cymunedau sy'n taclo prosiectau sy'n llesol i'r amgylchedd. Os ydych chi'n trefnu unrhyw fath o ymgyrch leol neu genedlaethol, croeso i chi gysylltu i weld beth allai S4C ei wneud i'ch cefnogi.
Ydych chi'n awyddus i glirio sbwriel o'ch parc lleol? Oes darn o'r afon neu ben y stryd sydd angen ei lanhau? Oes angen i adeilad gymunedol rydych chi'n ei defnyddio fod yn fwy cyfeillgar i'r amylchedd? Ydych chi am gynnal sioe ffasiwn gyda dillad wedi eu hailddefnyddio? Gall S4C gynnig cymorth mewn ffyrdd amrywiol i gymunedau, clybiau, aelwydydd, ysgolion a cholegau ac elusennau sy'n ceisio cynnal prosiectau fel hyn wrth iddyn nhw gael eu cynllunio.
Gall S4C godi proffil y digwyddiadau trwy’r gwasanaeth rhaglenni a gyda chymorth amryw o wynebau cyfarwydd sy’n ymddangos ar y sgrîn.
Os ydych chi â diddordeb mewn trefnu digwyddiad codi arian yn gysylltiedig â gweithgareddau gwyrdd, ac awydd cymorth gan S4C, yna anfonwch ffurflen gais aton ni neu gysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales