S4C Calon Cenedl / Heart of the Nation

Cyfres newydd. Bob nos Fercher 8.25 Gwylio Cegin Bryn ar Clic

Cregyn Bylchog Pôb

  • Ar gyfer 4 fel cwrs cyntaf

  • 20g o fenyn
  • 1 moronen ,wedi ei phlicio a'i thorri 'n stribedi
  • 1 cenhinen , wedi ei thocio a'i thorri'n stribedi
  • 1-2 llwy ffwrdd o saws soy
  • 1 llwy fwrdd o olew sesame
  • 25g o wreiddyn sinsr ( o jar) , wedi ei dorri'n stribedi
  • 8 cragen fylchog heb gwrelau (roes)
  • Halen a phupur
  • Blawd ar gyfer ysgeintio
  • 100g o grwst pwff (paced yn iawn)
  • 1 ŵy wedi ei guro
  • Tua 200g o halen y graig (rock salt)

Hefyd fe fydd angen gofyn am 4 cragen - y gwaelod a'r caead - i weini

Mae blasau Asiaidd yn gweddu'n berffaith gyda bwyd môr. Yn y rysáit yma mae'r gwreiddlysiau o dan y cregyn bylchog yn eu gwarchod rhag cyffwrdd â'r gwres yn uniongyrchol. Mae'r rysáit yma yn gwrs cyntaf perffaith ar gyfer swper gyda ffrindiau gan ei bod yn bosib paratoi'r saig hyd at 4 awr o flaen llaw. Cadwch yn yr oergell nes eich bod chi'n barod i'w weini.

Cynheswch y popty i 180°C /350°F/nwy 4

Toddwch y menyn mewn sosban fawr. Ychwanegwch y moron a'r cennin a chwyswch nhw yn dyner nes eu bod yn feddal. Tynnwch o'r gwres i oeri ychydig.

Ar ôl iddynt oeri gosodwch y llysiau mewn powlen fawr. Ychwanegwch y saws soy, olew sesame a'r gwreiddyn sinsir a chymysgwch.

Torrwch y cregyn bylchog yn eu hanner. Rhannwch y gymysgedd lysieuol rhwng pedair cragen yna gosodwch 4 darn o'r cregyn bylchog ar ben y llysiau. Ychwanegwch halen a phupur. Arllwyswch unrhyw sudd sydd dros ben o'r bowlen llysiau yna gosodwch y caeadau (cregyn) ar ben y cyfan i greu cragen gyfan.

Taenwch ychydig o flawd ar fwrdd a rholiwch y crwst pwff yn siâp hirsgwar tua 10 x 40cm. Torrwch yn 4 stribed a gosodwch un stribed o amgylch pob cragen i'w selio. Gan ddefnyddio eich bysedd gwasgwch y crwst er mwyn sicrhau fod y cregyn wedi eu selio'n dynn (heb dyllau).Brwsiwch y crwst gyda'r ŵy (wedi ei guro).

Taenwch haenen o halen y graig ar dun pobi , gosodwch y cregyn bylchog ar ben yr halen (fe fydd hyn yn cadw'r cregyn rhag symud).

Coginiwch am 10 munud. I weini tynnwch y caead yn ofalus a bwytewch y cregyn bylchog o'r gragen waelod.

Tipiau Bryn

Gofynnwch i'ch siop bysgod am y cregyn gweini. Sicrhewch eu bod wedi eu glanhau a'u cadw i'w defnyddio eto.

Os nad oes cregyn ar gael yna torrwch 4 sgwâr ffoil a rhannu'r gymysgedd lysieuol rhyngddynt.. Rhowch y cregyn bylchog ar ben y gymysgedd. Plygwch y ffoil dros ben y cyfan er mwyn creu parsel (gan sicrhau fod yr ochrau wedi eu selio yn dynn).Rhowch y cregyn bylchog ar dun pobi (gyda'r cregyn bylchog yn wynebu i fyny) a choginiwch fel uchod. Does dim angen yr halen na'r crwst y tro hwn.

Bryn's Kitchen gan Bryn Williams wedi'i gyhoeddi gan Kyle Cathie.
Mae cyfle i wylwyr brynu copi o'r llyfr am bris gostyngol o £20 (gan gynnwys P&P, DU yn unig) drwy ffonio 01903 828503 gan ddyfynu cyfeirnod KC BK/S4C neu ebostio mailorders@lbsltd.co.uk