S4C Calon Cenedl / Heart of the Nation

Cyfres newydd. Bob nos Fercher 8.25 Gwylio Cegin Bryn ar Clic

Ffondant Siocled ag Oren, Hufen iâ Iogwrt a Chroen Candi Pîl

Ffondant Siocled ag Oren, Hufen iâ Iogwrt a Chroen Candi Pîl
  • Ar gyfer 6 person

  • Ar gyfer yr hufen iâ iogwrt

  • 2 felynwy
  • 60g o siwgr caster
  • 250ml o laeth cyflawn
  • 75ml o hufen dwbl
  • 500g o iogwrt plaen
  • Ar gyfer y croen candi pîl

  • 1 oren fawr
  • 100g o siwgr caster a 2-3 llwy fwrdd ychwanegol ar gyfer rholio
  • 1 seren anîs
  • Ar gyfer y ffondant

  • 255g o fenyn heb ei halltu gyda ychydig yn ychwanegol i iro
  • Powdr coco i ddwstio
  • 250g o siocled tywyll (o ansawdd da o leiaf 70% solet coco)
  • 1 llwy de o groen oren wedi gratio
  • 5 ŵy a 5 melynwy
  • 125g o siwgr caster
  • 2 lwy de o flawd plaen

Fe fydd angen chwech o fowldiau (addas i'r popty) tua 7.5cm o led

Mae ffondant yn profi eich sgil fel cogydd- ac mae'r cyfuniad yma o siocled ac oren yn anhygoel. Dw i'n awgrymu eich bod yn paratoi'r hufen iâ a'r croen candi pîl ddiwrnod o flaen llaw. Os nad oes peiriant hufen iâ gyda chi gweinwch gyda iogwrt plaen ffres.

Yn gyntaf paratowch yr hufen iâ. Wisgiwch y 2 felynwy a'r siwgr mewn powlen nes eu bod yn drwchus a hufennog. Arllwyswch y llaeth a'r hufen i sosban drom a'u berwi dros wres isel. Nesaf arllwyswch y llaeth a'r hufen poeth i'r gymysgedd melynwy a'u cymysgu yn dda. Rhowch y gymysgedd yn ôl yn y sosban a chymysgwch dros wres isel nes ei fod yn ddigon trwchus i orchuddio cefn llwy. Hidlwch y gymysgedd drwy ridyll (gyda tyllau mân) dros yr iogwrt a chymysgwch. Gadewch i'r gymysgedd oeri ychydig ac yna oerwch yn yr oergell. Arllwyswch y gymysgedd oer i'r peiriant hufen iâ a'i gorddi nes ei fod wedi rhewi ond ddim yn rhy galed. Rhowch mewn blwch gyda chaead arno a'i rewi nes eich bod ei angen.

I baratoi'r croen candi pîl golchwch yr orennau yn dda , yna'u plicio mor denau â phosib gan sicrhau nad oes bywyn (pith) chwerw yn dal i fod ar y croen. Gan ddefnyddio cyllell finiog torrwch y croen oren yn stribedi tenau. Rhowch y croen mewn dŵr berw am 1 munud. Draeniwch ac adfywiwch mewn powlen o ddŵr oer. Draeniwch ac adfywiwch ddwywaith eto.

Mewn sosban drom berwch 100ml o ddŵr, y siwgr a'r seren anîs yn araf, gan sicrhau fod y siwgr yn ymdoddi yn llwyr. Ychwanegwch y pîl oren a mudferwch dros wres isel am awr. Tynnwch o'r gwres a gadewch i oeri ychydig. Gan ddefnyddio fforc tynnwch y pîl o'r surop a'u rholio yn y siwgr ychwanegol. Rhowch ar rac i oeri. Storiwch y croen candi pîl mewn bocs gyda chaead.

Nesaf mae angen iro'r mowldiau gyda menyn a'u dwstio gyda phowdr coco. Siglwch y mowldiau i gael gwared o unrhyw bowdr ychwanegol a'u gosod yn yr oergell.

Rhowch y siocled, menyn a'r croen oren mewn powlen dros sosban o ddŵr sydd prin yn mudferwi, a'i gymysgu yn achlysurol nes bod y siocled a'r menyn wedi toddi. Gadewch i oeri ychydig. Curwch y wyau, y 5 melynwy a'r siwgr mewn powlen fawr (yn drwyadl ond yn dyner) - sicrhewch nad oes gormod o swigod yn ymddangos. Ychwanegwch y gymysgedd siocled at y wyau, cymysgwch a phlygwch y blawd i mewn yn ofalus. Tapiwch y fowlen ar y bwrdd i waredu'r swigod aer o'r gymysgedd. Arllwyswch yn ofalus i'r mowldiau (tua hanner llawn). Rhowch yn yr oergell am o leiaf 30 munud neu dros nos.

Pan ydych yn barod i goginio'r ffondant- cynheswch y popty i 160c/325f/nwy marc 3.

Coginiwch y ffondant yn y popty am 10-12 munud. Gorffwyswch am 2 funud cyn eu troi allan o'r mowldiau.

I weini ychwanegwch sgŵp o'r hufen iâ iogwrt a gwasgarwch lond llaw o'r croen candi pîl ar yr hufen iâ.

Bryn's Kitchen gan Bryn Williams wedi'i gyhoeddi gan Kyle Cathie.
Mae cyfle i wylwyr brynu copi o'r llyfr am bris gostyngol o £20 (gan gynnwys P&P, DU yn unig) drwy ffonio 01903 828503 gan ddyfynu cyfeirnod KC BK/S4C neu ebostio mailorders@lbsltd.co.uk