
Cyfres newydd. Bob nos Fercher 8.25 Gwylio Cegin Bryn ar Clic
Dyma lwyn frau o gig oen gyda chyfuniad clasurol o bys, letys, a bacwn - y swper gwanwynol perffaith.
Cynheswch y popty 160°C/325°F/marc nwy 3
Gwasgarwch y cig gyda halen a phupur. Gosodwch badell ffrio drom dros dymheredd cymhedrol. Pan fo'r badell yn boeth, ychwanegwch un llond llwy fwrdd o'r olew . Rhowch y cig oen yn y badell a'i liwio, gan ei droi fel bod pob rhan o'r cig yn brownio. Peidiwch â brysio hyn - mi fydd gan y pryd lawer mwy o flas a lliw os byddwch yn cymryd eich amser. Rhowch y cig oen (yn y badell ffrio) yn y popty am 8-10 munud. Tynnwch y cig oen o'r popty a'i roi ar blât i orffwys am 10-15 munud.
Mewn padell ffrio arall a thros dymheredd cymhedrol, ychwanegwch weddill yr olew a choginio'r cig moch nes ei fod wedi crasu ac yn euraidd. Ychwanegwch y winwns a'u coginio am 2 funud arall. Gorchuddiwch y bacwn a'r winwns gyda stoc y cig oen a dod ag ef i'r berw. Ychwanegwch y pŷs, menyn, y letys, a'r mint a halen a phupur, ac yna ei dynnu yn syth oddi ar y gwres.
I weini, sleisiwch y cig oen, a thywalltwch y gymysgedd o bŷs a bacwn i mewn i bowlen fawr (neu rhai unigol) a gosod y sleisys cig oen drostynt.