
Cyfres newydd. Bob nos Fercher 8.25 Gwylio Cegin Bryn ar Clic
Fe fydd angen tun rhostio trwm arnoch chi, tua 25 x 35cm gyda rac weiar sy'n ffitio ar ben y tun.
Tydy ysgwydd oen ddim mor boblogaidd â choes oen , ac mae hynny'n drueni. O'i goginio yn araf, bydd y darn yma o gig sydd yn llawn blas oherwydd ei fraster, yn toddi yn y gêg. Ac mae'r tatws mae'r cig yn eistedd arnynt, yn nefolaidd.
Cynheswch y popty i 120°C / 250°F / marc nwy 1/2
Ychwanegwch halen a phupur i'r ysgwydd oen- byddwch yn hael. Cynheswch yr olew yn dawel mewn padell ffrio drom. Ychwanegwch yr oen i'r badell a gadewch iddo liwio yn araf nes bod y cig yn frown /euraidd. Tynnwch y cig o'r badell a'i osod i un ochor.
Sychwch unrhyw olew sydd yn weddill yn y badell ffrio gyda phapur cegin ac yna gosodwch y badell yn ôl ar y gwres. Ychwanegwch y menyn. Pan fo'r menyn wedi toddi , ychwanegwch y sleisys o nionod a'u coginio am 10-15 munud neu nes eu bod yn frown. Ychwanegwch y rosmari a chymysgu'n dda cyn tynnu'r badell o'r gwres unwaith eto.
Rhowch y tatws i orwedd ar waelod y tun rhostio , ychwanegwch halen a phupur a haenen o'r winwns. Ychwanegwch ail haenen o datws yna mwy o winwns ac yna'r haenen olaf o datws. Dylai'r haenau fod tua 5cm o drwch.
Arllwyswch y stoc cig oen dros ben y tatws nes i'r hylif eu gorchuddio. Torrwch y bwlb garlleg yn ei hanner (ar draws yn hytrach nag ar hyd). Gosodwch y garlleg ar ben y tatws.
Rhowch y rac weiar ar ben y tatws a'r winwns, a gosodwch y cig ar ben y rac. Rhowch y cyfan yn y popty a choginiwch yn araf am 5-6 awr neu nes bod y cig yn dyner iawn. Fe fydd sudd blasus y cig yn cael ei amsugno gan y tatws ac fe fydd y stoc yn anweddu (evaporate) gan adael cymysgedd felys y winwns a'r tatws ar ôl.
I weini , rhwygwch yr oen o'r asgwrn a gweinwch gyda'r tatws . Rhannwch y garlleg rhwng pob plât. Dw i'n hoff o weini'r cyfan gyda salad gwyrdd syml.