Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Hel pac i Ŵyl Bandit

Paciwch eich pabell, y sach gysgu, brwsh dannedd, y wellies a'r gôt law a phâr o ddillad isa' sbâr - mae tymor y gwyliau cerddorol wedi dechrau! Ac i ddathlu'r haf, mae Bandit wedi creu gŵyl fach ei hun.

Mewn rhifyn arbennig o Bandit a ffilmiwyd yn ddiweddar o flaen cynulleidfa ddethol, bydd y ddau Huw, Evans a Stephens, yn cyflwyno gwledd o gerddoriaeth.

Perfformwyr

Yn cadw cwmni i'r ddau bydd llond cae o artistiaid adnabyddus y sin roc a phop Cymraeg - o'r Sibrydion a Dybl L i Cowbois Rhos Botwnnog.

Bydd y gantores boblogaidd Heather Jones yn ymuno â'r band Clinigol i berfformio 'Dim ond ti sydd ar ôl', a bydd Yr Ods yn ein swyno gyda'r caneuon 'Nid bai y teledu' ac 'Y ffordd ti'n troi dy lygaid'.

Bydd gan wylwyr gyfle hefyd i fwynhau uchafbwyntiau cerddorol y Sibrydion wrth iddyn nhw ganu o amgylch y tân.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales