Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Breuddwyd Sax Osian Roberts

Mewn rhaglen arbennig dilynwn ganwr sacsoffon o Gaerdydd wrth iddo geisio gwireddu breuddwyd oes a chreu record yn Efrog Newydd gydag un o sêr mawr y sîn jazz.

Bydd ‘The Osian Roberts/Steve Fishwick Quintet’ yn chwarae gydag un o arwyr mwyaf Osian, Cedar Walton, pianydd jazz blaenllaw iawn yn y sîn yn y 60au, a’r chwaraeydd bas Peter Washington. Byddant yn creu record newydd yn arbennig ar gyfer y rhaglen deledu.

“Dw i’n gwybod y gwnaiff y record werthu lot mwy oherwydd bod Cedar Walton yn chwarae arni. Bydd y ffaith ei fod e ar y CD yn agor y farchnad i ni mewn llefydd fel Japan lle mae’n boblogaidd iawn,” eglura Osian.

Er bod jazz yn boblogaidd dros y byd i gyd mae’r rhan fwyaf o gantorion jazz yn dueddol o ymgynnull yn Efrog Newydd. “Efrog Newydd yw’r peth agosaf i Mecca yn y byd jazz,” ychwanega Osian. “Mae cymaint o chwaraewyr safonol yno gan fod pobl yn dod o bobman i gymryd rhan yn sîn jazz y ddinas liwgar.

Cyfaddefa Osian ei fod wedi ystyried symud i’r Unol Daleithiau i gynnal bywoliaeth broffesiynol, ond does ganddo ddim awydd ymsefydlu yno ar hyn o bryd.

“Byddai mor anodd i fi wneud bywoliaeth yna achos dyw gigs ddim yn talu yn Efrog Newydd. Fyddwn i ddim yn gallu gweithio fel dw i’n wneud rwan,” meddai Osian, sy’n cyfuno ei waith fel cerddor gyda dysgu’r genhedlaeth newydd o gerddorion jazz ifanc a brwd.

Gydag Eric, tad Osian, yn ganwr opera proffesiynol, fe welodd o oedran ifanc fod modd ennill bywoliaeth ym myd anwadal y cerddor. “Gwelais i sacsoffon mewn ffenest siop ac o’n i’n meddwl bo’ hwnna’n edrych mor amazing. Wedyn ar ôl hwnna dyna’r cwbl o’n i ishe fod o’dd cerddor jazz.

“Mae gwireddu breuddwyd yn binacl i unrhyw gerddor. Mae cael gwneud hynny ynghanol y sîn jazz yn Manhattan, cadeirlan jazz y byd, hyd yn oed yn fwy anhygoel,” meddai Osian.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales