Neidio at y cynnwys

S4C

Carolau Gobaith

Carolau Gobaith

Mae'r Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar i ddau o gantorion enwocaf Cymru wrth iddyn nhw fynd ben ben â'i gilydd mewn sialens Nadoligaidd wahanol iawn - gan obeithio codi arian ar gyfer dwy elusen ar yr un pryd.

Sgiliau canu a hyfforddi Shân Cothi a Rhys Meirion fydd ar brawf, yn ogystal â'u hamynedd, yn y gyfres hon. Dros dair wythnos, bydd y ddau yn mentora tri wyneb cyfarwydd yr un i berfformio carol Nadolig mewn cyngerdd arbennig i'w ddarlledu ar S4C.

Shân fydd yn cynnig cymorth ac yn perfformio deuawd gyda'r actor Huw Rees, sy'n adnabyddus am ei waith yn Gari Tryfan a Caerdydd; y cyflwynydd rhaglenni ieuenctid Leni Hatcher a'r awdur a chyflwynydd Byw yn yr Ardd, Bethan Gwanas. Tasg Rhys fydd dysgu'r dyfarnwr Nigel Owens, y digrifwr Tudur Owen a'r actores Siw Hughes, sy'n enwog am ei phortread o'r cymeriad eiconig Kath Jones yn Pobol y Cwm.

Bydd gwylwyr yn dilyn taith hir y chwech wrth iddynt ymgymryd yn llwyr â'r her a chodi arian tuag at elusennau Tŷ Gobaith ac Amser Justin Time. Mae hosbis Tŷ Gobaith - gyda chanolfannau yng Nghroesoswallt a Chonwy - yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd plant sydd â salwch terfynol. Shân ei hun wnaeth sefydlu elusen Amser Justin Time er cof am ei gŵr, Justin Smith, a fu farw o gancr y pancreas.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales