Mae pawb yn adnabod geiriau cofiadwy'r hysbysebion cymharu yswiriant sy'n dominyddu'r teledu - y rheiny sy'n gwneud i chi wenu neu wgu - a'r cymeriad Gio Compario - "And you'll thank your stars that you went to Go Compare!"
Ond dros gyfnod y Nadolig, bydd cyfle i weld Wynne Evans - y tenor sy'n portreadu Gio Compario - yn rhoi'r gorau i'w fwstash a'i acen Eidaleg er mwyn cymryd rhan mewn cyngerdd Nadoligaidd, Carolau o Langollen, o Bafiliwn Rhyngwladol Llangollen.
Cawn ei glywed yn perfformio ambell glasur gan Ryan Davies, carolau traddodiadol a chaneuon o'r albwm newydd, sy'n cael ei ryddhau ym mis Ebrill 2011.
Fe fydd Wynne yn rhannu'r llwyfan gyda Caryl Parry Jones, yr unawdydd ifanc Rhys Meilir, Band Arian Llaneurgain, dawnswyr Debbie Chapman a'r gantores Iona Jones - sy'n ferch i gyn gyflwynydd y gyngerdd, y diweddar Robin Jones. Cawn hefyd fwynhau sain arbennig Côr Ieuenctid Sir y Fflint, enillwyr cystadleuaeth Codi Canu S4C eleni, Côr y Rhos, ac enillwyr cystadleuaeth corau plant y Daily Post - Côr Ysgol Bodedern - yn perfformio cân arbennig gyda Wynne.
Meddai Wynne, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin, "Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at berfformio yn Llangollen eleni. Rwy'n siŵr y bydd hi'n noson arbennig gyda chymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant pur at ddant pawb. Dwi wrth fy modd gyda charolau Nadolig felly doedd dim amheuaeth fy mod yn mynd i dderbyn y gwahoddiad i ganu yma."
Branwen Gwyn a Hywel Gwynfryn fydd yn cyflwyno'r adloniant a bydd enillydd cystadleuaeth Carol Llangollen 2010, E Olwen Jones o bentref Talwrn ar Ynys Môn, hefyd yn clywed ei charol fuddugol, Dim ond un, carol gynnes a theimladwy am stori'r geni, yn cael ei pherfformio.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales