Mae'r nifer o sêr sy'n cael eu hadnabod dim ond wrth eu henw cyntaf yn eithaf prin. Ond ar ôl 15 mlynedd a mwy yn y byd cerddoriaeth a'r papurau newydd, mae'r potensial yna i'r ferch o Gaerdydd sydd bellach wedi ymgartrefu yn Sir Benfro.
O ddyddiau cynharaf y band Catatonia yn y '90au cynnar, daeth hi'n amlwg fod gan Cerys Matthews ddawn anghyffredin. Gyda'i llais unigryw, a'r sbarc a wnaeth y band mor syfrdanol, doedd rhyfedd fod Catatonia mor llwyddiannus.
Ond yn sgil y llwyddiant, daeth bywyd preifat ac arferion cymdeithasol Cerys yn destun diddordeb y paparazzi a'r colofnau clecs. Yn 2001, chwalodd y band yng nghanol pryderon am iechyd Cerys yn deillio o'i defnydd o alcohol a'i chyfaddefiad iddi ddioddef o iselder. Diflannodd hi o lygad y cyhoedd a symud i fyw mewn cwt yn y goedwig ger Nashville, prifddinas canu gwlad, wrth gwrs.
O'r cyfnod hwn daeth datblygiad cerddorol newydd ar ffurf ei CD cyntaf ar ei liwt ei hun, Cockahoop, yn 2003. Doedd yr arddull ddim yn ddilyniant naturiol o sain Catatonia i lawer o ffans. Ond roedd ei steil newydd mwy gwerinol/canu gwlad yn blatfform perffaith i'r llais yna sgleinio, ac roedd y record yn bleser ac yn llwyddiant.
Erbyn hyn roedd Cerys wedi priodi, ac fe gafodd ddau blentyn gyda'i gŵr Seth Riddle, cynhyrchydd cerdd o Dde Carolina. Priododd hi ger cartref ei rhieni yn Sir Benfro, ac mae'n amlwg fod ei gwreiddiau'n ddwfn yn y tir, achos erbyn hyn, mae hi wedi dod adre i fagu ei phlant, er bod y briodas wedi dod i ben.
Yn y cyfamser, cafodd y colofnau clecs fodd i fyw unwaith eto pan aeth Cerys i'r jyngl yn Awstralia ar gyfer I'm a Celebrity, Get me Out of Here! Cwrddodd hi â'r actor Marc Bannerman, a thaniodd atyniad rhyngddyn nhw yn syth, er ei fod e mewn perthynas yn barod.
Felly beth yw cynlluniau Cerys? Sut mae'r plant yn mwynhau byw yng Nghymru? Ac ydy'r ddawn gerddorol arbennig honno wedi cael ei throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf? Gyda pherfformiadau gan Cerys ei hun, a'r delynores Catrin Finch, dyma'ch cyfle i ddal lan â Cerys a chlywed yr hanes yng ngeiriau'r seren ei hun.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales