Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Côr y Fron

Côr y Fron: Efrog Newydd 2011

Ymweliad Côr y Fron i Efrog Newydd.

Fe fydd holl ddrama, emosiwn a chyffro taith Côr Froncysyllte i Efrog Newydd yn cael eu hailfyw mewn rhaglen ddogfen ar S4C ar nos Iau, 15 Medi.

Mae Côr y Fron wedi cael blynyddoedd cofiadwy iawn ers cael cytundeb recordio gyda Universal, un o gwmniau recordio mwya'r byd, yn 2005.

Ond ni allai hyd yn oed brofiadau lliwgar y côr meibion o ogledd ddwyrain Cymru dros y chwe blynedd diwethaf eu paratoi ar gyfer drama eu hymweliad â'r Afal Mawr ddiwedd Awst.

Fe fydd y rhaglen Côr y Fron: Efrog Newydd 2011 yn dilyn y côr meibion 48-aelod i'r Unol Daleithiau, gan hefyd adrodd peth o hanes y côr dros y degawdau diwethaf wrth iddynt ddatblygu yn un o gorau meibion mwyaf adnabyddus a llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig.

Ar drothwy lawnsiad eu pumed albwm gyda Universal ym mis Hydref, fe fentrodd y côr i Efrog Newydd am y tro cyntaf erioed, gan obeithio ychwanegu at eu dilyniant a'u gwerthiant o bron i filiwn o recordiau dros Fôr yr Iwerydd.

Meddai Bethan Anwyl, cynhyrchydd y rhaglen: "Roedd eu taith i'r Unol Daleithiau yn llawn drama gan iddynt gael eu dal yng nghanol storm Hurricane Irene. Ond mae llawer mwy i'r daith na hynny - hanes personol cymeriadau lliwgar Côr Froncysyllte ac ymateb rhyfeddol pobl Efrog Newydd iddynt."

Fe gafodd y côr 48 aelod eu dal yn y storm ar ôl cyrraedd Efrog Newydd - ond ni wnaeth hynny atal eu penderfyniad i berfformio.

Yn y rhaglen fe'i gwelwn yn canu yn Eglwys St Bartholomew's ym Madison Avenue, eu perfformiadau impromptu yn Times Square a Fferi Staten Island a datganiad cofiadwy yn yr Heartland Brewery, yng nghysgod adeilad yr Empire State Building.

Bydd y rhaglen yn dilyn rhai o gymeriadau lliwgar y côr, gan gynnwys Dulyn Moss, Cyril Jones a Jeff Davies, sy'n mynd ar drywydd un o'i gyndeidiau - y morleidr Robert Edwards 'Millions' a ymfudodd o Gymru i America yn y 18fed ganrif.

Bydd cyfweliadau hefyd gyda Daniel Glatman, y rheolwr miwsig pop a welodd botensial y côr yn wreiddiol, sydd bellach yn rheolwr masnachol iddyn nhw.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales