Daeth ychydig o sglein a chyffro'r West End i lwyfan pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 a nawr mae cyfle i fwynhau'r noson wefreiddiol hon ar S4C.
Gwelwn berfformiadau gan John Owen Jones, Mark Evans, Gwion Jones, Tara Bethan a'r ferch leol Katy Treharne o Nantyglo, Glyn Ebwy. Mae Katy ar hyn o bryd yn rhan o gast y sioe gerdd fyd enwog Phantom of the Opera yn Her Majesty's Theatre, Llundain.
Mae gan John Owen Jones, o Borth Tywyn, brofiad helaeth ar lwyfannau'r West End a Broadway. Yn ddiweddar chwaraeodd ran Jean Valjean yn Les Misérables, sy'n dathlu ei 25 mlwyddiant eleni. Mae e hefyd wedi chwarae rhan y Phantom yn Phantom of the Opera gan ennill clod gan adolygwyr theatr. Yn ddiweddar hefyd, bu'n westai ar raglen Shân Cothi ar S4C.
Daeth Mark Evans, sydd o Lanrhaeadr ger Dinbych, i sylw'r cyhoedd ar raglen y BBC Your Country Needs You oedd yn chwilio am gynrychiolydd o Brydain i gystadlu yn yr Eurovision Song Contest. Fe ddaeth Mark yn drydydd yn y gystadleuaeth honno ac ers hynny mae ei yrfa wedi ffynnu. Yn ddiweddar fe ymddangosodd yn y sioe gerdd Oklahoma! a chynhyrchiad llwyfan o'r ffilm Disney High School Musical.
Daeth Gwion Jones a Tara Bethan i enwogrwydd tu hwnt i Gymru ar y rhaglen I'd Do Anything ar y BBC, oedd yn chwilio am berfformwyr ar gyfer y sioe gerdd Oliver!. Llwyddodd Gwion i ennill rôl Oliver, ac er na ddaeth Tara i'r brig wrth geisio am rôl Nancy, fe enillodd glod uchel gan y beirniaid. Ers hynny, mae hi wedi perfformio rhan yr adroddwr yn y sioe gerdd Joseph.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales