Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddoriaeth

Cyngerdd Aberglasne: Dathlu Prifysgol Y Drindod Dewi Sant

Dechrau ar haf o ddigwyddiadau

Mae'r haf wedi dod ac mae S4C ar daith yn ymweld â gwyliau, cyngherddau a digwyddiadau yn eich ardal chi.

I erddi hynafol Aberglasne, yn Sir Gaerfyrddin, yr awn ni'n gyntaf yn y rhaglen Cyngerdd Aberglasne: Dathlu Prifysgol Y Drindod Dewi Sant. Morgan Jones a Mari Grug fydd yn cyflwyno goreuon rhai o ddigwyddiadau Gŵyl! sef cyfres o nosweithiau celfyddydol wedi ei threfnu i ddathlu sefydlu Prifysgol Y Drindod Dewi Sant.

Bryn Terfel a Wynne Evans

Prif ddigwyddiad Gŵyl! oedd cyngerdd fawreddog yng nghwmni Bryn Terfel a Wynne Evans ar lwyfan yn yr awyr agored yn y gerddi. Hefyd yn perfformio roedd cyfuniad o gorau CF1, Côr Godre'r Garth a Chôr y Drindod.

Yn ystod y rhaglen fe gawn gip ar rai o ddigwyddiadau eraill yr ŵyl fydd yn cynnwys cystadleuaeth Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows a chyngerdd arbennig o Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Meddai Medwyn Parri, Pennaeth Digwyddiadau a Teledu Achlysur S4C, "Mae Cyngerdd Aberglasne nid yn unig yn ddathliad o sefydlu Prifysgol Y Drindod Dewi Sant ond hefyd yn rhoi blas i ni ar ŵyl fydd yn hybu'r celfyddydau yn ardal Sir Gaerfyrddin."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales