Eleni mae'r cyfansoddwr Gareth Glyn yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed. Bydd S4C yn darlledu cyngerdd i nodi'r garreg filltir hon yn ei fywyd sydd hefyd yn rhoi cyfle inni fwynhau a rhyfeddu at ei ddawn gerddorol.
Bydd rhai o'n cerddorion a'n cantorion mwyaf talentog yn dod ynghyd ar lwyfan Neuadd Prichard Jones ym Mangor i gyflwyno darnau amrywiol o'i waith. Ymysg y perfformwyr mae Catrin Finch, Fflur Wyn, Jeremy Huw Williams, Côr Ieuenctid Môn, Band Biwmares, Côr Aelwyd yr Ynys, Cefin Roberts, Ysgol Glanaethwy a John Eifion.
"Er fy mod wedi bod yn rhan o'r paratoadau manwl a'r ymarferion ar gyfer y cyngerdd, ac yn gwybod beth oedd am fod yn digwydd ar y llwyfan, mi roedd y profiad o fod yno ar y noson mewn neuadd lawn a gweld pobol ar eu traed yn cymeradwyo yn brofiad emosiynol dros ben," meddai Gareth Glyn, a anwyd ym Machynlleth, a fagwyd yn yr Wyddgrug ac sy'n byw erbyn hyn ger pentref Bodffordd ar Ynys Môn. "Mi roedd y teimlad o werthfawrogiad yn cynhesu'r galon."
Mae Gareth hefyd wedi bod yn brysur yn ei stiwdio yn ei gartref yn ddiweddar yn gweithio ar CD ddwbwl, Welsh Incident a gweithiau cerddorfaol eraill sydd ar fin gael ei chyhoeddi. Stiwdio gyfarwydd arall iddo yw stiwdio'r BBC ym Mryn Meirion, Bangor, wrth gwrs, lle mae'n treulio bob prynhawn yn ystod yr wythnos yn cyflwyno'r rhaglen newyddion Post Prynhawn yn ei ddull byrlymus ei hun.
Ar ôl yr holl brysurdeb mae'n edrych ymlaen yn awr at fwynhau hoe fach.
"Ar fy mhen-blwydd ar ddechrau Gorffennaf, mi fyddai ar fy ngwyliau gyda'm gwraig, yn rhywle distaw ond pell!"
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales