Bydd cyfle i fwynhau noson o ganu, adloniant a glitz mewn cyngerdd arbennig yng nghwmni Elin Fflur sy'n dathlu deng mlynedd o berfformio.
Bydd Cyngerdd Elin Fflur yn gyfle i glywed gwledd o ganu gyda rhai o hoff ganeuon y gantores, a rhai sydd wedi chwarae rhan amlwg yn ei bywyd yn ystod y degawd diwethaf. Yn cadw cwmni iddi ar y llwyfan bydd Tara Bethan a Tesni Jones.
Fe fydd Elin yn cymryd golwg dros yrfa a ddechreuodd yn 2002 pan ddaeth i sylw'r cyhoedd yn canu 'Harbwr Diogel', cân fuddugol Cân i Gymru'r flwyddyn honno.
"Mae hi wedi bod yn ddeng mlynedd anhygoel," meddai'r gantores sy'n hanu o Sir Fôn. "Mae pob dim wedi bod yn brofiad da o'r cychwyn tan heddiw. 'Dwi'n credu mai ennill Cân i Gymru oedd yr uchafbwynt am mai'r gystadleuaeth oedd y peth cyntaf i mi ei wneud yn gyhoeddus. Fydd yna ddim byd yn teimlo cystal â hynny."
Mae'r gyngerdd yn gyfle i Elin i ddiolch ac i dalu teyrnged i'r rhai hynny fu'n gymorth iddi yn ei gyrfa. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfansoddwyr Rob Reed a Caryl Parry Jones, sydd wedi ysgrifennu sawl cân ar ei chyfer, Arfon Wyn cyfansoddwr y gân Harbwr Diogel, a'i mam Nest Howells - oedd yn aelod o'r band roc Brân yn y 70au.
"Alla i ddim dychmygu fy hun yn gwneud dim arall. Gan 'mod i'n gweithio ar fy liwt fy hun, fydda i'n aml yn gofyn i mi fy hun ar gyfnodau tawel beth fuaswn i'n ei wneud ar wahân i ganu? Cerddoriaeth ydy fy mywyd i, a dwi wrth fy modd yn cael teithio Cymru yn cyfarfod pobl newydd o hyd. Mae'n ffordd gyffrous o fyw," meddai Elin, wrth iddi edrych ymlaen at haf prysur o deithio a pherfformio mewn gwyliau, gan gynnwys cyngerdd arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe fydd hi hefyd yn rhyddhau caneuon newydd dros yr haf.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales