Dyma gyfle i fwynhau cyngerdd o glasuron Cymreig yng nghwmni dau o gantorion disglair Cymru - y tenor Rhys Meirion a'r soprano ifanc Rhian Lois.
Bydd Cyngerdd Rhys Meirion a Rhian Lois yn gymysgedd o unawdau a deuawdau poblogaidd i gyfeiliant Cerddorfa Siambr Cymru dan arweiniad Alwyn Humphreys. Ymysg y ffefrynnau mae 'Arafa Don', 'Huna Blentyn', 'Hywel a Blodwen' ac 'Unwaith eto Nghymru Annwyl'.
Y gyngerdd yma ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid, oedd y tro cyntaf i Rhys a Rhian berfformio gyda'i gilydd a bydd Rhian yn falch o'r cyfle i wneud eto'n fuan.
"Cawson ni lot o hwyl gefn llwyfan gan mai ar fy nhir i yng Ngheredigion roeddwn i, felly roedd rhaid i Rhys fod yn ofalus beth roedd e'n ddweud! Roedd e'n golygu llawer i weld cymaint o wynebau cyfarwydd yn y gynulleidfa. Mae pobl Ceredigion wastad wedi fy nghefnogi i ac roedd hi'n braf cael cyfle i roi rhywbeth 'nôl," meddai Rhian a fagwyd ym Mhontrhydygroes, ychydig filltiroedd o Bontrhydfendigaid.
Mae'r gantores 24 oed ar fin gorffen ei haddysg yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain. Mae cyfnod prysur iawn o'i blaen oherwydd ym mis Medi bydd hi'n gwneud ei début gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Llundain.
Ar ddechrau wythnos Eisteddfod yr Urdd Abertawe a'r Fro, mae Rhian yn pwysleisio cymaint o fudd y bu'r Urdd iddi wrth ddatblygu fel cantores. Fe enillodd ar lwyfan yr Urdd am y tro cyntaf yn wyth mlwydd oed, ac yn 2008 fe enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales