Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddoriaeth

Cyngerdd Sir y Sioe

Dechrau ar haf o ddigwyddiadau

Mae'r haf wedi dod ac mae S4C ar daith yn ymweld â gwyliau, cyngherddau a digwyddiadau yn eich ardal chi.

Sir Nawdd Y Sioe Frenhinol eleni yw Sir Gaernarfon, ac i Bontllyfni yr awn ni ar gyfer noson o adloniant gan rai o berfformwyr yr ardal yn Cyngerdd Sir y Sioe.

Un o gyflwynwyr rhaglenni'r Sioe Amaethyddol, Dai Jones fydd yn cyflwyno'r arlwy yn y rhaglen a bydd hefyd yn dod i adnabod rhai o gymeriadau'r ardal yn well. Ymhlith y perfformwyr mae Emyr a Siân Wyn Gibson, Siân Eirian, Hywel Jones, Trebor Edwards, Lleisiau Mignedd a Seindorf Arian Dyffryn Nantlle.

Meddai Medwyn Parri, Pennaeth Digwyddiadau a Teledu Achlysur S4C, "Mae Cyngerdd Sioe y Sir yn gyfle i ddathlu rhai o dalentau gogledd orllewin Cymru ac yn fan cychwyn wrth i ni edrych ymlaen at Y Sioe Frenhinol eleni. Bydd S4C yno gyda darllediadau cynhwysfawr byw yn ystod y dydd, ar deledu ac ar ein gwefan, yn ogystal â rhaglenni o oreuon y cystadlu a'r digwyddiadau gyda'r nos."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales