Mae Cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed y flwyddyn nesaf. Bydd Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, yn llawn tensiwn a chyffro wrth i gantorion ifanc o bob rhan o'r byd gamu ar y llwyfan i berfformio. Y cwestiwn mawr ydi, pwy fydd yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yn 2013?
Caiff y cwestiwn hwn ei ateb yr wythnos hon gyda rownd derfynol Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C ac ar Radio Cymru. Enillydd y gystadleuaeth hon fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd y flwyddyn nesaf.
Fe enillodd Bryn Terfel Wobr Lieder y gystadleuaeth Canwr y Byd nôl ym 1989. Ond y bariton Dmitri Hvorostovsky wnaeth gipio'r Brif Wobr y flwyddyn honno. A fydd Cymru yn ennill y brif wobr am y tro cyntaf yn 2013?
Yn sicr, mae pedwar o gantorion arbennig wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae gwledd o ganu operatig o'n blaenau. Y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn dilyn clyweliadau yng Nghaerdydd a Llundain, ydi Sioned Gwen Davies o Fae Colwyn (mezzo-soprano), Gary Griffiths o Ben-bre (bariton), Rhian Lois o Bont-rhyd-y-groes, Ceredigion (soprano) a Fflur Wyn o Gaerfyrddin (soprano).
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, o dan arweiniad Grant Llewellyn, fydd yn cyfeilio yn y rownd derfynol.
Aelodau'r panel beirniaid fydd y cantorion rhyngwladol Rebecca Evans, Della Jones a Donald Maxwell. Yn ymuno â nhw hefyd bydd John McMurray, Pennaeth Castio Opera Cenedlaethol Lloegr, a Julian Smith, Ymgynghorydd Cerdd BBC Canwr y Byd Caerdydd.
Meddai Gillian Green, Cyfarwyddwr Cerdd Byw Nawr Cymru, trefnwyr y gystadleuaeth mewn cydweithrediad â BBC Cymru, a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, "Unwaith eto, mae'r dalent o Gymru o safon arbennig o uchel ac mi fydd hi'n ddiddorol gweld pwy, allan o'r pedwar sydd llawn mor dalentog â'i gilydd, fydd yn cael eu dewis i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013.
"Nid yn unig y bydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn Neuadd Dewi Sant yn gyngerdd ffantastig, bydd hefyd yn rhagolwg diddorol o'r hyn y gallwn ddisgwyl ei weld y flwyddyn nesaf. Dydych chi byth yn gwybod, ond gallai'r rheini sy'n bresennol, yn gwylio ar S4C ac yn gwrando ar Radio Cymru, fod ymhlith y cyntaf i glywed enillydd Cymraeg yng nghystadleuaeth nesaf Canwr y Byd!"
Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media, "Rwy'n falch eithriadol bod Rondo yn cynhyrchu'r darllediadau o'r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig eleni. Mae hon yn gystadleuaeth arbennig, a safon y cantorion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn uchel tu hwnt. Mae Canwr y Byd yn agos iawn at fy nghalon i, gan mai'r diweddar Mervyn Williams, fy nhad, greodd y gystadleuaeth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
"Mae'n wych bod S4C a BBC Cymru yn medru cyd-ddarlledu'r gystadleuaeth arbennig hon, ac rydym yn eithriadol o falch o fod yn cydweithio hefyd gyda Cerdd Byw Nawr a Neuadd Dewi Sant - cartre'r gystadleuaeth."