Mwynhewch unig berfformiad operatig Bryn Terfel eleni gyda darllediad ecsgliwsif o’r opera Falstaff, sydd â’r bas bariton enwog yn y brif ran.
Dyma un o ddanteithion y Pasg ar S4C wrth i Bryn gamu i rôl Falstaff, opera olaf y cyfansoddwr o’r Eidal, Verdi, a berfformiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Fe ymunodd Bryn Terfel â’r cyfarwyddwr enwog, Peter Stein, yr arweinydd cerdd, Carlo Rizzi a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, a’r tenor Rhys Meirion, sydd hefyd o Ogledd Cymru, ar gyfer y cynhyrchiad hwn sy’n wledd i’r llygaid.
Cwmni cynhyrchu Opus TF sy’n gyfrifol am y darllediad. Dilynodd y camerâu aelodau cast Opera Cenedlaethol Cymru am fis cyn i Falstaff gael ei lwyfannu a gellir gweld lluniau egscliwsif o’r ymarferion a’r paratoadau yn y ffilm ddogfen Falstaff: Tu Ôl i’r Llenni noson cyn y perfformiad ar S4C.
Meddai Peter Stein, “Mae’r gerddoriaeth yn cael ei hystyried ymysg y gymhlethaf a gyfansoddwyd erioed. Mae iddi strwythur modern sydd yn gofyn llawer gan y cantorion.”
Mae troeon trwstan Syr John Falstaff yn y ddrama hon yn ymddangos fel stori fach ysgafn am ddyn sydd â chymaint o feddwl o’i hun fel ei fod yn credu y gall briodi unrhyw un a pherchen ar unrhywbeth. Mae’r holl gamddealltwriaeth a’r cynllwynio yn arwain at sefyllfaoedd doniol iawn a bydd yna ddigon o destun gwenu a chwerthin. Ond mae ambell neges fwy difrifol y tu ôl i’r miri am drachwant a balchder dyn.
Mae Falstaff yn cael ei ystyried yn un o’r rhannau anoddaf i fas bariton ond roedd Bryn Terfel wrth ei fodd gyda maint y dasg o’i flaen wrth iddo ddilyn ôl troed Falstaff ‘Cymreig’ arall, y diweddar Syr Geraint Evans.
Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd cyfle i weld Bryn Terfel yn cael ei drawsnewid i edrych yn dew iawn gan griw gwisgoedd Opera Cenedlaethol Cymru a bydd cyfweliad hefyd gyda Peter Stein. Yn ogystal â dilyn y nifer fawr o sêr yn y sioe, bydd y rhaglen hefyd yn talu sylw i ddeuddeg o blant o Ysgol Gynradd Melin Gruffydd, Caerdydd a ddewiswyd i chwarae tylwyth teg a gweision bach yn y cynhyrchiad.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales