Bydd criw talentog Ysgol Glanaethwy yn cyflwyno cerddoriaeth fydd yn apelio at bob dant mewn cyfres newydd sbon sy'n dechrau ar S4C.
Teitl y gyfres chwe rhaglen yw, yn syml, Glanaethwy, a bydd pob rhaglen yn llawn dop o gerddoriaeth amrywiol - o fyd y sioeau i ganu gwerin a roc a phop. Bydd corau Glanaethwy yn perfformio dan arweiniad cyfarwyddwyr artistig yr ysgol, Cefin a Rhian Roberts.
"Mae Glanaethwy yn adloniant pur, o'r dechrau i'r diwedd," meddai cynhyrchydd y gyfres, Robin Evans. "Mi fuon ni'n hynod o brysur yn recordio 36 o ganeuon yn stiwdio Barcud ac mae rhai o gyn-ddisgyblion yr Ysgol - nifer ohonyn nhw bellach yn berfformwyr proffesiynol - wedi bod wrthi'n ddiwyd yn cynhyrchu fideos ar gyfer y gyfres. Bydd yna hefyd gryn dipyn o ddawnsio.
"Mi wnaethon nhw ffilmio'r gân hyfryd a gyfansoddwyd gan Caryl Parry Jones, Nos yng Nghaer Arianrhod, yng Nghaer Belan ger Caernarfon, a'r gân Mab y Mans (cyfieithiad o'r gân enwog a ganwyd gydag arddeliad gan Dusty Springfield, Son of a Preacher Man) ym Mhorth y Gest. A sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog yw'r lleoliad ar gyfer perfformiad o'r gân Swllt a Naw gan Endaf Emlyn."
"Mae 'na rywbeth yma at ddant pawb - gan y Côr Hŷn, y Côr Iau, unigolion a chriw o gyn-ddisgyblion," meddai. "Mae'r cyn-ddisgyblion yn cynnwys Iddon Alaw, Martin Thomas, Emyr Gibson, Owain Arthur, Carwyn Jones, Owen Arwyn, Bethan Hughes, Mirain Haf, Nerys Lewis, Elliw Mai ac Elain Llwyd."
Cyfarwyddwr cerdd y gyfres yw Einion Dafydd, ac mae nifer o gerddorion amlwg wedi cyfansoddi trefniannau newydd yn arbennig ar gyfer y gyfres, gan gynnwys Geraint Cynan, John Quirk a Jeff Howard.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales