Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Rhys Jones: Gŵr y Gân

Mae dylanwad Rhys Jones ar gerddoriaeth yng Nghymru wedi bod yn aruthrol. Mae ei ganeuon wedi cael eu clywed ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau ledled y wlad, ac mae wedi cael dylanwad mawr ar lu o gyfansoddwyr a pherfformwyr. Nawr mae ei fywyd a'i waith yn destun rhaglen ddogfen o'r enw Gŵr y Gân.

Cawn gwmni Rhys ei hun yn y rhaglen wrth iddo hel atgofion am ei fywyd. Cawn hefyd fwynhau perfformiadau o rhai o'i ganeuon cofiadwy gan y grŵp harmoni, y 405's, sy'n cynnwys ei ferch, Caryl Parry Jones, a'i wyres, Miriam.

Cawn glywed hefyd gan gerddorion sydd wedi cael eu dylanwadu ganddo, gan gynnwys Islwyn Evans o Ysgol Gerdd Ceredigion a'r cyfansoddwr Gareth Glyn.M

"Mae gwneud y rhaglen hon wedi bod yn brofiad hyfryd, ac yn brofiad newydd ar ôl 30 mlynedd o ddarlledu ar y radio," meddai Rhys, a ddaw yn wreiddiol o Drelawnyd ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mhrestatyn gyda'i wraig, Gwen. "Mae wedi bod yn siwrnai nostalgic i mi, ac roedd adegau pan oeddwn i'n teimlo'n eitha' emosiynol.

"Mwynhaeais wrando hefyd ar y trefniannau lleisiol o rhai o 'nghaneuon. Mae clywed dehongliadau pobl eraill o'ch gwaith chi yn cyffwrdd yr enaid. Yn Eisteddfod yr Urdd eleni mi roedd pump o 'nghaneuon yn cael eu perfformio mewn gwahanol gystadlaethau. Ac mi roedd clywed saith o gorau meibion ar y llwyfan yn canu'r gân, 'O Gymru' yn brofiad rhyfeddol."

Ac yntau bellach yn 83 oed, mae'r rhaglen Gŵr y Gân wedi bod yn gyfle iddo fwrw golwg yn ôl dros ei fywyd a'i yrfa.

"Mae wedi bod yn fywyd hir a llawn dop, ac yn llawn hapusrwydd. Fedra i ddim meddwl am unrhyw oriau tywyll. Y peth gorau wnes i erioed oedd priodi Gwen. Mae hi wedi bod yn gymaint o ddylanwad arna i."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales