Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Cyngerdd Dathlu Karl Jenkins

Dathlu cerddoriaeth Karl Jenkins

Bydd cyfle i ddathlu gwaith gorau'r cyfansoddwr byd enwog Karl Jenkins o Benclawdd, Abertawe, mewn cyngerdd arbennig ar S4C.

Bydd llu o gantorion a cherddorion Cymraeg yn troedio llwyfan Canolfan y Mileniwm i berfformio darnau gan y cyfansoddwr, sydd wedi mwynhau gyrfa o dros ddeugain mlynedd ac sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 65 oed.

Cast o sêr

Bydd y soprano o Bont-rhyd-y-fen, Rebecca Evans ymysg y perfformwyr ar y noson, yn ogystal â seren The X Factor Rhydian Roberts, y delynores Catrin Finch, y gantores a'r cyflwynydd teledu Elin Fflur.

Hefyd yn perfformio bydd David Childs y chwaraewr euphonium, y trympedwr Huw Morgan, y canwr trebl Geraint Owen a Sinfonia Cymru. Bydd lleisiau Côrdydd, Côr Caerdydd, Aelwyd y Waun Ddyfal a Cantata hefyd yn uno i berfformio yn y gyngerdd.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales