Mae'r bwrlwm, y lliw a'r hwyl ar fin ffrwydro ar faes Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Bydd tîm cyflwyno S4C yng nghanol y bwrlwm i sicrhau y bydd gwylwyr y Sianel yn cael cyfle i fwynhau awyrgylch yr ŵyl unigryw hon.
Tîm cyflwyno S4C yn Llangollen eleni fydd Nia Roberts, Alwyn Humphreys, Trystan Ellis-Morris a Mari Grug - ac maen nhw'n edrych ymlaen at y profiad.
"Y llynedd oedd y tro cyntaf i mi gyflwyno o faes Eisteddfod Llangollen, ac mi roedd yn wych - yn un o'r profiadau gorau dwi wedi ei gael hyd yn hyn yn fy ngyrfa," meddai Trystan, sy'n dod yn wreiddiol o bentref Deiniolen yng Ngwynedd ac sy'n byw erbyn hyn yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn cyflwyno rhaglenni'r gwasanaeth Cyw ar S4C.
"Mae'n argoeli i fod yn Ŵyl gofiadwy unwaith eto eleni. Mae cymaint i'w edrych ymlaen ato," meddai Gareth Williams o gwmni Rondo, sy'n gyfrifol am ddarllediadau S4C o Langollen. "Mae'r orymdaith liwgar, wrth gwrs, ac yna Diwrnod Rhyngwladol y Plant ar y dydd Mawrth, a chystadlaethau gwerin newydd ar y dydd Gwener. Mae llawer o docynnau i'r maes eisoes wedi eu gwerthu felly mi fydd hi'n ddiwrnod prysur a lliwgar."
"Uchafbwynt y cyfan fydd y gystadleuaeth Côr y Byd arobryn ar y nos Sadwrn, ac mi fyddwn ni yno yn croniclo'r cyfan. Peidiwch, ychwaith, â cholli uchafbwyntiau'r gyngerdd yng nghwmni Russell Watson a'i westai arbennig, y gantores ifanc Faryl Smith, yn nes ymlaen ar S4C. Dyma'r tro cyntaf i Russell ymddangos yn Eisteddfod Llangollen."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales