Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Llŷr yn Carnegie

Début Llŷr yn Neuadd Carnegie

Derbyniodd y pianydd o Bentrebychan ger Wrecsam, Llŷr Williams, wahoddiad pwysig iawn yn gynharach eleni. Gwahoddiad personol gan bwysigion Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd i berfformio yno.

Dim ond pedwar o gerddorion disglair y byd sy'n derbyn gwahoddiad o'r fath bob blwyddyn, ac yn y rhaglen Llŷr yn Carnegie yr wythnos hon, a gyflwynir gan Beti George, cawn ei weld yn perfformio ar lwyfan y neuadd enwog.

Neuadd byd enwog

Cawn glywed mwy am hanes rhyfeddol Neuadd Carnegie, sydd wedi llwyddo i ddenu mawrion cerddorol y byd dros y blynyddoedd megis Caruso, Casals, Mahler, Rachmaninov, Pavarotti a Bryn Terfel. Cawn hefyd fod yn rhan o'r gynulleidfa mewn cyngerdd arbennig yn un o westai moethus Efrog Newydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Yn y gyngerdd 'Cymru yn America' a drefnwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, rhoddodd Llŷr première byd i waith gan Karl Jenkins o'r enw Madog. Perfformiodd hefyd weithiau gan Chopin, Schubert a Debussy.

Dewis gofalus

Ar gyfer ei début yn Neuadd Carnegie, dewisodd Llŷr ei raglen yn ofalus, er mwyn dangos ei ddawn ar ei orau. Yn yr hanner cyntaf cawn glywed weithiau gan Schubert a Debussy ac yna yn yr ail hanner, mae'n perfformio Darluniau mewn Arddangosfa gan Mussorgsky.

Yn y rhaglen hon, Llŷr ei hun sy'n esbonio'r cefndir y tu ôl i wahanol rannau'r gwaith er mwyn rhoi darlun cyflawn inni o gampwaith Mussorgsky.

Mae'r gynulleidfa yn dangos eu gorfoledd hwythau gan sefyll ar eu traed i gymeradwyo'r Cymro sy'n gwneud enw iddo ei hun ar draws y byd. Peth anarferol iawn yw gweld cynulleidfa yn Neuadd Carnegie yn sefyll ar eu traed mewn edmygedd.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales