Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddoriaeth

Margaret Price: Brenhines y Gân

Clod uchel i gantores Gymraeg gan gewri'r byd opera mewn rhaglen deyrnged

Rhaglen deyrnged sy'n bwrw golwg ar yrfa a bywyd y ddiweddar Margaret Price, o bosib y gantores orau erioed i ddod o Gymru.

Bu farw'r Fonesig Margaret Price yn gynharach eleni yn 69 mlwydd oed. Yn y rhaglen Margaret Price: Brenhines y Gân byddwn yn talu teyrnged i'r ferch o'r Coed Duon yng Ngwent a ddaeth yn un o sopranos operatig mwyaf blaenllaw ei hoes.

Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda chantorion byd enwog fel y tenoriaid Placido Domingo a José Carreras, y soprano Kiri te Kanawa a'r bas bariton Bryn Terfel - sydd yn adlewyrchiad o enw da Margaret Price ymhlith ei chyd-berfformwyr.

Er hynny, bydd rhai o'i chyd-berfformwyr, ffrindiau a chyd-weithwyr yn gofyn pam na chafodd Margaret Price y gwerthfawrogiad yr haeddai yma yng Nghymru.

Perfformiadau bythgofiadwy

Bydd y rhaglen yn dangos sut i'r gantores goncro rhai o neuaddau cyngerdd a thai opera mwyaf Ewrop ac America gyda'i pherfformiadau o repertoire yn cynnwys Mozart, Schubert, Verdi a Strauss. Cynhwysir hefyd darnau ffilm prin sy'n dangos y gantores mewn rhai o'i pherfformiadau mwyaf bythgofiadwy.

Ymhlith eraill sy'n cyfrannu at y rhaglen mae'r organydd a chyn Bennaeth Cerddoriaeth BBC Cymru, Huw Tregelles Williams, y darlledwr Frank Lincoln, yr academydd a chyfarwyddwr cerdd, Dr Richard Elfyn Jones, yr adolygydd, Rian Evans, y cyflwynydd ac arweinydd cerdd, Alwyn Humphreys a'r Parchg Ganon Dorian Davies, Canon mewn Preswyl, Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales