Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Melys Lais

Bydd hapusrwydd a llwyddiant, ynghyd â thristwch bywyd personol y tenor carismataidd o Sir y Fflint, David Lloyd (1912-1969), yn cael eu datgelu yn y rhaglen ddogfen hon.

Daeth David Lloyd i’r brig gyntaf oll mewn eisteddfodau lleol. Yn fachgen amddifad, swil o Drelogan, ger Trelawnyd fe'i hyrddiwyd i ganol bywyd myfyriwr cerdd bell o gartref ym mhrifddinas Lloegr. Er hynny, llwyddodd i ennill pob gwobr posib yn y coleg, gan gynnwys Y Fedal Aur yn 1937.

Y gŵr â deigryn yn ei lais

Mae arbenigwyr yn credu fod ei deimladau o golled a thristwch wedi effeithio ar ei ganu. Gwefreiddiodd gynulleidfaoedd, a daeth yn enwog am ei ganu telynegol o ffefrynnau fel Lausanne, Elen Fwyn, Arafa Don, a’r gân a gysylltwn ag ef o hyd, Bugail Aberdyfi.

Yn y rhaglen hon mae’r cerddor Rhys Jones yn cofio i rywun ddweud wrtho fod gan David Lloyd “ddeigryn yn ei lais.” Ac meddai’r tenor Rhys Meirion, sy’n cyflwyno’r rhaglen, “Mae 'na rywbeth yn ei lais sy’n mynd at eich calon. Mae’n anodd ei roi o mewn geiriau.”

Mae Rhys Meirion yn gweld yr eironi yn y ffaith fod y gŵr nerfus, swil hwn yn perfformio’n gyhoeddus yn rhyngwladol, a bod dyn ei filltir sgwâr wedi cael ei ddyrchafu yn eicon cenedlaethol.

Y Caruso Cymreig

Fel ag y gwnaeth Rhys Meirion flynyddoedd yn ddiweddarach, gwnaeth David Lloyd ei début operatig yng Ngŵyl Opera Gydwladol Glyndebourne ym 1938, gan symud ymlaen at gwmni opera Sadlers Wells i ganu’r prif rannau yn yr operâu Don Giovanni a’r Magic Flute. Swynodd gynulleidfaoedd ar draws Ewrop, ac roedd yn cael ei adnabod fel y Caruso Cymreig.

Ar ôl derbyn cytundeb i ganu yn nhŷ opera’r Met yn Efrog Newydd, daeth yr Ail Ryfel Byd, a chwalwyd ei yrfa. Fe’i gorfodwyd i ymuno â’r Gwarchodlu Cymreig. Unwaith eto, roedd yn rhaid iddo wynebu teimladau o golled a siom. Ni ddychwelodd i fyd yr opera ar ddiwedd y rhyfel, gan ganolbwyntio yn hytrach ar gyngherddau a datganiadau. Cafodd ddamwain erchyll wrth recordio rhaglen i’r BBC, torrodd asgwrn ei gefn ac o ganlyniad ni wnaeth ganu am chwe blynedd.

Brwydro nôl

Fe’i llethwyd gan iselder ac unigedd, ond ar ôl derbyn llawdriniaeth a threulio cyfnodau hir mewn ysbyty, brwydrodd ei ffordd yn ôl i’r llwyfan cyhoeddus. Roedd cynulleidfa o 12,000 yn ei ddisgwyl wrth iddo gamu ar lwyfan Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 1960 i berfformio’n gyhoeddus unwaith eto.

Bu farw yn 1969, yn 56 oed, wedi iddo syrthio i lawr y grisiau yn ei gartref a tharo ei ben. Daeth cannoedd i’w angladd i dalu’r deyrnged olaf i ganwr arbennig a oedd wedi cyffwrdd calonnau â’i ganu.

Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau o’r gyngerdd a gynhaliwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau'r llynedd i gofio David Lloyd. Yn cymryd rhan mae Rhys Meirion, Côr Meibion Trelawnyd, Côr Meibion Caerwys, Côr Meibion Cymau, Côr Meibion Brymbo, Annette Bryn Parry a Robin Jones.

  • Melys Lais
  • Nos Lun, Gŵyl y Banc, 5 Mai 21:00
  • Hefyd nos Sadwrn 10 Mai 19:40
  • Cyngerdd Cofio David Lloyd
  • Nos Sadwrn 10 Mai 20:40

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales