Ar Nos Galan, byddwn yn ffarwelio â'r flwyddyn mewn steil gydag uchafbwyntiau Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain 2010 yn y rhaglen Mil o Leisiau 201o. Cynhaliwyd y cyngerdd yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain ym mis Hydref a dyma un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y Cymry yn Llundain.
Ers 1969, bob dwy flynedd mae Neuadd Albert yn atseinio i fil o leisiau, ac mae'r galw am docynnau mor frwd ag erioed. Eleni roedd chwe chôr o Gymru - côr y Cambrian, Caron, De Cymru, Dowlais, Kenfig Hill a Tâf - a phedair o Loegr - Heddlu Henffordd, Huntingdon, Shelfield a Wycombe Orpheus - yn ymuno â Chôr Meibion Cymry Llundain, sy'n trefnu'r ŵyl.
Yn ymuno â nhw bydd y soprano Elizabeth Donovan, y bariton David Kempster a'r tenor Rhys Meirion a'r cyfan dan arweiniad y Maestro Alwyn Humphreys.
"Dwi yn mwynhau arwain y math yma o noson. Mae bod ar y llwyfan a gweld yr holl seddi yn llawn pobl yn rhoi thrill, ond mae hefyd yn codi ofn mawr a rhywun wrth gwrs," meddai Alwyn Humphreys am y dasg o arwain yr holl gorau. "Mae'r cyfrifoldeb yn fawr, ond mae o'n achlysur pwysig ac yn un mae rhywun yn gallu ei fwynhau."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales