Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Nadolig Bryn Terfel

Caiff gwylwyr S4C anrheg go arbennig ar Noswyl Nadolig. Bydd un o sêr mwyaf disglair Cymru, Bryn Terfel, yn perfformio rhai o'i hoff garolau a chaneuon y Nadolig, yng nghwmni criw hynod o ddawnus.

Yn rhannu llwyfan gyda Bryn bydd Caryl Parry Jones, Catrin Finch, Gwawr Edwards, Côrdydd, Cor Plant Nidus, John Ogwen, ac enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni, y tenor ifanc o Landudno, Elgan Llŷr Thomas.

Bydd Elgan Llŷr Thomas yn canu deuawd gyda Bryn, ac mi fydd y ddau yn perfformio carol o Fecsico, El Nacimiento.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael canu gyda Bryn," meddai Elgan. "Dwi'n teimlo'n nerfus, yn arbennig gan nad ydw i wedi canu yn Sbaeneg o'r blaen ond mi fydd yn brofiad gwych. Dyma'r cyfle cyntaf dwi wedi ei gael i ganu gyda Bryn fel unawdydd, ond mi ro'n i'n aelod o'r côr oedd yn canu gydag e ar ei daith Bad Boys. Mae'n berson lyfli. Mae'n gweithio'n galed ac mi roedd yn garedig iawn gyda'r côr a phawb oedd ar y daith."

Nadolig i Bryn

"I mi, mae pob ffordd dros y Nadolig yn arwain at fy nghartref gyda theulu a ffrindiau yn galw heibio a'r cyfle i gyd-ganu bob math o wahanol ganeuon," meddai. "Dyna pam y mae'n golygu cymaint i mi ein bod yn gallu recordio'r rhaglen Nadolig arbennig yma yng Ngogledd Cymru o flaen cynulleidfa leol gyda llu o westeion Cymraeg a cherddorfa Sinfonia Cymru. Dwi'n edrych ymlaen at ddod â blas o Nadolig Cymreig gwbwl draddodiadol, yn llawn o hwyl yr ŵyl, i'ch ystafell fyw chi.

"Mae 2010 wedi bod yn un o'r blynyddoedd mwyaf prysur i mi, ac felly dwi am ddiffodd fy iphone, rhoi fy nhraed i fyny, a mwynhau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd gyda fy nheulu. Gyda thipyn o lwc, mi gawn ni eira, sy'n golygu y ga' i frwydr peli eira gyda fy hogia!"

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales