Neidio at y cynnwys

S4C

cerddoriaeth

Nodyn

Al Lewis yn taro'r Nodyn yng nghwmni Elin Fflur

Bydd cyfres newydd o'r rhaglen gerddoriaeth Nodyn yn dychwelyd i S4C nos Wener, 12 Awst gyda mwy o berfformiadau gwefreiddiol mewn lleoliadau anarferol.

Bydd y gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur yn parhau i deithio o amgylch Cymru yn gwahodd artistiaid a bandiau'r sîn roc a phop Gymraeg i berfformio mewn lleoliadau adnabyddus a godidog ar hyd a lled Cymru.

Yn ymuno ag Elin yn y rhaglen gyntaf bydd y canwr ifanc, Al Lewis, sydd yn perfformio tair cân o'i albwm newydd. Bydd yn canu'r caneuon 'Colli'r Cyfle' a 'Hanes yn y Lluniau' gyda'i fand llawn ar draeth Talacre, a'r gân 'Fy Awr Fawr' yng ngoleudy hynaf Cymru, ger traeth Talacre ym mhen ucha' gogledd Cymru.

"Mi roedd o'n brofiad diddorol a phleserus iawn cael perfformio'r set," meddai Al, a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2007 ac sydd bellach yn byw yn Llundain wrth iddo godi ei broffil yn y diwydiant cerddoriaeth yno.

"Gan fod yr albwm newydd yn sôn am y syniad o berthyn a'r teimlad o hiraeth mae rhywun yn ei gael wrth hel atgofion ac edrych drwy hen luniau, mi wnaeth y tîm cynhyrchu ddod i fyny efo'r syniad o gael cyfres o hen luniau i ddod fyny ar y fan tu ôl i ni wrth i ni ganu. Dwi'n edrych ymlaen at weld sut neith o droi allan!"

Yn hwyrach yn y gyfres, cawn weld perfformiad arbennig gan The Gentle Good, sef enw llwyfan Gareth Bonello, sydd yn un o nifer o berfformwyr Cymreig sy'n perfformio yn yr ŵyl fiwsig altarnatif, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a gynhelir yn flynyddol ym Mannau Brycheiniog.

Bydd y gyfres hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Yr Ods, Gai Toms, Wil Tân a Gwyneth Glyn. Bydd Elin Fflur hefyd yn dilyn ôl troed y gantores Lleuwen Steffan i Lydaw wrth iddi berfformio yng Ngŵyl Quimper ac yn darganfod mwy am ei bywyd yn y wlad Geltaidd ar y cyfandir.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales