Mae rhaglen ddogfen ddadlennol ar S4C yn codi'r clawr ar y pedwar mis cyffrous diwethaf ym mywyd côr enwoca' Prydain, Only Men Aloud.
Yn y rhaglen awr o hyd, gallwch ddilyn y côr meibion a'r cyfarwyddwr cerdd carismatig Tim Rhys-Evans wrth iddynt fwynhau mwy a mwy o lwyddiant rhyngwladol.
Fe ddaeth y côr i'r amlwg y tu hwnt i Gymru wrth ennill cystadleuaeth corau'r BBC, Last Choir Standing yn 2008. Ers hynny maen nhw wedi arwyddo cytundeb recordio gyda'r label recordio fawr, Universal, ac wedi cyrraedd brig y siartiau clasurol.
Mae camerâu S4C wedi dilyn y côr 20-aelod ers dechrau 2010, wrth iddynt ddychwelyd i dre' frodorol Tim, Tredegar Newydd i ddathlu deng mlwyddiant y côr. Maent hefyd yn hedfan draw i Efrog Newydd i hyrwyddo'r côr ac yn teithio i Lundain ar gyfer seremoni wobrwyo'r Classic Brits, lle cafon nhw enwebiad yn y categori Albwm y Flwyddyn.
Mae'r rhaglen yn cynnwys ffilmio ecsgliwisif o'r côr yn ymarfer a chymdeithasu yn ogystal â pherfformio ar lwyfan. Cawn hefyd ddod i nabod Tim a'r côr wrth iddynt wynebu trobwynt yn eu gyrfaoedd.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfraniadau gan y canwr Rhydian Roberts, y cyfansoddwr Karl Jenkins a'r pensaer John Belle ymhlith eraill wrth inni ddathlu'r ffenomena Only Men Aloud.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales