Bydd tri chant o leisiau swynol plant ardal Bro Morgannwg yn uno ar gyfer Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol y Fro. Mewn rhaglen arbennig ar S4C yr wythnos hon, bydd cyfle i weld sut y daeth y cyfan at ei gilydd, dan arweiniad yr amryddawn Tim Rhys- Evans.
Wyn Davies fydd yn dilyn Tim ac aelodau Only Men Aloud wrth iddynt baratoi'r cantorion ifanc yn eu hysgolion ledled y Fro. Cawn gyfle i ddilyn y côr ifanc wrth iddynt gamu ar lwyfan Pafiliwn Pinc yr Eisteddfod i berfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf, a hynny ochr-yn-ochr ag Only Men Aloud ac Only Boys Aloud.
Darlledir Only Kids Aloud o'r Fro nos Iau, 2 Awst gyda'r Cyngerdd Agoriadol yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C nos Wener, 3 Awst.
"Roeddwn i eisiau creu côr o blant lleol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel bod y plant yma'n gallu profi'r wefr o berfformio ar lwyfan fawreddog yn eu milltir sgwâr eu hunain. Does 'na ddim llwyfan yng Nghymru sy'n fwy na'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r ymateb i'r ymgyrch newydd wedi bod yn wych gyda dros 300 o blant nawr yn rhan o gyffro'r prosiect," meddai Tim Rhys-Evans.
Mae canran o'r plant yn y côr yn dod o gartrefi di-Gymraeg ac mae'r prosiect diweddaraf yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg yn ogystal â chanu corawl traddodiadol.
"Mae yna draddodiad hir a chryf gan yr Eisteddfod Genedlaethol o feithrin a datblygu perfformwyr ifanc yn yr iaith Gymraeg. Rwy wedi bod yn ddigon ffodus i arwain Only Men Aloud ac Only Boys Aloud ar lwyfan y Pafiliwn yn y gorffennol ac mae pawb yn ysu cael bod yn rhan o Ŵyl y Fro eleni."
O ystyried llwyddiant Tim gyda chorau ifanc yn y gorffennol, mae Only Vale Kids Aloud mewn dwylo diogel. Yn ddiweddar cafodd Only Boys Aloud sylw cenedlaethol pan ddaethant yn drydydd yn y gyfres deledu Britain's Got Talent a bu Only Kids Aloud yn perfformio dan y maestro byd enwog, Valery Gergiev, ar lwyfan Canolfan y Mileniwm.
"Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel i'r corau am resymau gwahanol. Gydag Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, y bwriad oedd ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fechgyn ifanc i ddarganfod y wefr o ganu corawl," eglura Tim.
"Mae llwyddiant, ymroddiad a thalent yr unigolion yn dangos bod dyfodol i ganu corawl yng Nghymru. Ein gobaith, drwy ffurfio Only Kids Aloud ac yn awr Only Vale Kids Aloud, yw cyflwyno'r traddodiad arbennig yma i gynulleidfa ehangach."