Bydd y tenor enwog Dennis O'Neill, i'w weld yn canu rhan Otello am y tro cyntaf yng Nghymru mewn cynhyrchiad trawiadol a ddarlledir ar S4C.
Mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o gampwaith Verdi, Otello, wedi'i gyfarwyddo gan Paul Curran, Cyfarwyddwr Artistig cwmni Norwegian Opera. Cyfarwyddwr cerddorol y cynhyrchiad yw Carlo Rizzi.
Mae Dennis O'Neill wrth ei fodd o gael cyfle i ganu rhan Otello yng Nghymru, gan ei fod yn ystyried y rhan yn un o'r rhai gorau mewn opera Eidalaidd.
"Nifer fach iawn o operâu sy'n cynnig rhan i'r tenor sydd mor gymhleth ac amlochrog, o'i chymharu â'r ffigyrau rhamantus dau ddimensiwn sy'n arferol ar gyfer llais y tenor."
Cyfle unigryw i glustfeinio ar ymarferion y cynhyrchiad arbennig.
Yn y rhaglen gallwn ddilyn rhai o'r ymarferion yng Nghanolfan y Mileniwm a chlywed barn rhai o gantorion y cynhyrchiad am y gwaith.
Dau Gymro arall sy'n rhoi eu barn yn y rhaglen yw'r tenor Wynne Evans (Casio) a'r bariton David Kempster (Iago).
Bydd cyflwynydd y rhaglen, Rhodri Owen, hefyd yn ein gwahodd i ymuno ag ef ar ynys Cyprus, wrth iddo ymchwilio i stori'r Cadfridog Mwraidd, Otello.
Mae'r cynhyrchiad yn bwerus dros ben, gyda setiau gwych a gwisgoedd trawiadol. Yn ystod y rhaglen mae Rhodri yn gosod her iddo ef ei hun, sef darganfod un wisg arbennig - ffrog ar gyfer Desdemona - sy'n cael ei chadw o dan glo gan ei bod wedi ei gwneud o aur.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales