Neidio at y cynnwys

S4C

Pencampwriaeth Bandiau Pres Cymru: Digwyddiadau '11

Pencampwriaeth Bandiau Pres Cymru: Digwyddiadau '11

Yng nghanol brwydr y bandiau

Mae'r cyflwynydd Morgan Jones yn deall i'r dim beth ydy'r gwahaniaeth rhwng corned a thrombôn, ac euphonium a bâs, gan ei fod yn aelod o Fand Pres Trefor ers iddo fod yn wyth oed.

Yn y rhaglen Pencampwriaeth Bandiau Pres Cymru: Digwyddiadau '11, bydd Morgan yn rhannu ei wybodaeth â'i gyd-gyflwynydd Mari Grug wrth i'r ddau ymweld â digwyddiad o bwys ym myd y bandiau pres.

Y Pafiliwn Ysblennydd - y Grand Pavilion - ym Mhorthcawl yw lleoliad Pencampwriaeth Bandiau Pres Cymru. Mae Cystadleuaeth y Bandiau Pres yn ffynnu, ac eleni, bydd 11 o fandiau pres amlycaf Prydain yn cystadlu, gan gynnwys Band Tredegar, y Pencampwyr Prydeinig.

Meddai Morgan Jones, "Mae hon yn gystadleuaeth o safon. Gan mai dim ond bandiau o'r ddwy adran uchaf (y Bencampwriaeth ac Adran 1) sy'n cael cystadlu ynddi, fe fydd y perfformiadau yn rhai hynod ddisglair ac fe fydd hufen y bandiau pres ar y llwyfan. Mae'r tensiwn bob amser yn drydanol mewn cystadleuaeth bandiau a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gael bod yng nghanol hwnnw unwaith eto, ond heb y pwysau o orfod chwarae fy hun!"

Cawn flas o'r tensiwn a'r cystadlu yng nghwmni Morgan a Mari. Byddant hefyd yn codi'r llen ar y gwaith sy'n cael ei wneud y tu ôl i'r llwyfan mewn cystadleuaeth mor bwysig â hon, ac yn sgwrsio â rhai o'r cystadleuwyr.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales