Fe ysbrydolwyd Owain Arwel Hughes gymaint gan Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd pan adeiladwyd hi yn 1985, nes y penderfynodd fynd ati i greu'r Proms Cymreig, gŵyl gerddorol a fyddai'n apelio at y teulu cyfan. Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf yn 1986.
Mae'r Proms Cymreig yn dathlu eu pen-blwydd yn 25 oed eleni. Bydd S4C yn nodi'r digwyddiad trwy ddarlledu rhaglen ddogfen, Proms Cymru 25, sy'n olrhain hanes yr Ŵyl a hel atgofion am rai o gyngherddau'r gorffennol. Bydd S4C yn darlledu cyngerdd olaf y Proms eleni yn fyw hefyd.
"Rydw i wedi bod yn ffan o Neuadd Dewi Sant o'r cychwyn cyntaf," meddai Owain Arwel Hughes. "Ron i wedi bod yn arwain y Gerddorfa Hallé ym Manceinion am flynyddoedd, ac yn cynnal Proms yno gyda nhw, ac mi wnes i feddwl pam ddim cynnal Proms yng Nghymru? Mae'r Neuadd yn un o'r goreuon yn y byd, mae'r acwstics yn wych, mae'r awyrgylch yn hyfryd ac mae'r gynulleidfa'n medru gweld a chlywed popeth sy'n digwydd ar y llwyfan yn glir. Mae hefyd yn lle cartrefol iawn, sy'n siwtio'r Proms i'r dim."
Ond mae'n cyfaddef ei fod yn teimlo'n nerfus ar y noson gyntaf honno chwarter canrif yn ôl. "Ron i'n eistedd yn y cefn yn meddwl: oes 'na rywun yn y gynulleidfa? Ac yna cerddais i ar y llwyfan a gweld bod 'na gynulleidfa andros o dda, ac i ffwrdd â ni!
"Y darn cyntaf byddwn ni'n ei chwarae ar y noson agoriadol eleni yw'r un darn cyntaf â'r noson agoriadol 25 mlynedd yn ôl, sef Pictures from an Exhibition gan Mussorgsky."
Ymhlith y sawl fydd yn hel atgofion am y Proms yn Proms Cymru 25 mae Dennis O'Neill, Gwyn Hughes Jones, Leah Marian Jones, Rhys Meirion, Catrin Finch, Julian Lloyd Webber a Tim Rhys Evans.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales