Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddoriaeth

Llangollen '11: Russell Watson

Y Llais yn Llangollen

Ynghyd â'r dawnswyr yn eu gwisgoedd lliwgar, y blodau hyfryd ar flaen y llwyfan, a'r siarad brwd mewn sawl iaith ar hyd y maes, mae'r "Llais" wedi cyrraedd Llangollen!

Eleni oedd y tro cyntaf erioed i'r tenor efo'r llais gogoneddus o fawr, Russell Watson, sy'n cael ei adnabod fel "Y Llais", berfformio ar lwyfan yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol yn Llangollen. Yr wythnos hon ar S4C, Nia Roberts fydd yn cyflwyno uchafbwyntiau o'i gyngerdd cofiadwy, sy'n cynnwys perfformiadau gan ei westai arbennig ar y noson, y gantores ifanc o Kettering, Swydd Northampton, Faryl Smith. Un o Salford yw Russell a ddaeth i'r amlwg yn gyntaf nôl yn 1999 pan ganodd yn rownd derfynol Cwpan Sialens Rygbi'r Gynghrair yn Wembley, ac yna yn Old Trafford a Barcelona mewn gemau pêl-droed pwysig. Ers hynny, mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth, er ei fod wedi gorfod brwydro salwch difrifol yn ystod y daith.

Russell Watson

Meddai Russell cyn y gyngerdd yn yr Eisteddfod, "Dwi wrth fy modd fy mod yn dilyn ôl troed gymaint o sêr rhyngwladol yn Llangollen sy'n cael ei hadnabod fel yr Eisteddfod fwyaf enwog yn y byd. Mae'r ŵyl hon yn cynnig croeso wirioneddol Gymreig a dwi ddim yn medru disgwyl hyd nes i mi gamu ar y llwyfan a pherfformio. Llangollen, dyma fi!"

Faryl Smith

Ac meddai Faryl, a enillodd y wobr gyntaf yn yr unawd rhwng 10 a 15 oed yn yr Eisteddfod pan oedd hi'n ddim ond 10 oed, ac a ddisgleiriodd yn y gystadleuaeth deledu, Britain's Got Talent, "Dwi'n wirioneddol yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Langollen, oherwydd bod gen i atgofion gwych o gystadlu yn yr Eisteddfod; dyna oedd fy mhrofiad cyntaf o berfformio ar lwyfan rhyngwladol, ac mi roddodd hyder i mi i ddilyn fy mreuddwyd."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales