Neidio at y cynnwys

S4C

music

Cyngerdd Sêr y Steddfod

Fis Awst eleni, cafwyd gwledd o gyngherddau ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn y Bala. A bydd cyfle i fwynhau rhai o uchafbwyntiau Cyngerdd Sêr yr Eisteddfod (Dydd Nadolig, BBC Cymru ar S4C) a Cyngerdd Sain yn 40 (Nos Galan, BBC Cymru ar S4C) dros wyliau'r Nadolig.

Cymaint oedd yr edrych ymlaen at glywed artistiaid Cyngerdd Sêr yr Eisteddfod fod y tocynnau wedi eu gwerthu dros dri mis cyn y noson, ac ni chafodd y gynulleidfa ei siomi. Cafwyd perfformiadau penigamp gan Only Men Aloud, Côr Glanaethwy, Gwawr Edwards a Rhydian a gellir ail-fyw'r cyfan gyda BBC Cymru ar S4C ddydd Nadolig.

Roedd Tim Rhys-Evans, arweinydd egniol Only Men Aloud, yn falch iawn o gyflwyno repertoire Cymraeg newydd y côr ar lwyfan y Brifwyl. "Dyma'r tro cyntaf i ni berfformio caneuon fel Blaen Wern a Gwŷr Harlech ac fe gawsom ni dderbyniad arbennig. Mae 'na lot o goreograffi a dawnsio traddodiadol Gymreig felly mae 'na ddigon o hwyl i'w gael."

Yn rhannu llwyfan â nhw oedd y côr ifanc o Fangor a ddaeth yn ail pan gipiodd Tim a'r bechgyn deitl y Last Choir Standing.

"Odd hi'n bleser cael perfformio gyda Chôr Glanaethwy yn lle cystadlu yn eu herbyn gan fod Cefin a Rhian Roberts yn ffrindiau 'da i fi," esbonia Tim. "Dwi hefyd wedi gweithio sawl tro gyda Rhydian ac mae e yn foi hyfryd."

Doedd Tim ddim yn gyfarwydd iawn â'r soprano Gwawr Edwards sy'n dod o Aberystwyth, cyn y noson honno.

"O'n i mor impressed gyda pherfformiad Gwawr ar y noson mod i wedi ei gwahodd hi i ymuno â'r côr ar ein taith Nadolig ac yn ffodus iawn i ni fe wnaeth hi gytuno!"

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales