S4C

Close
Flash is required to view this video

cerddoriaeth

S'neb yn Becso Dam

Sioe gerdd yn atgyfodi clasuron Edward H

Cawn flas ar gerddoriaeth pop y Saithdegau nos Sadwrn 18 Awst ar S4C gyda chyfle i weld y sioe gerdd S'neb yn Becso Dam gan Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Mae'r sioe yn atgyfodi caneuon yr albwm o'r un enw gan Edward H Dafis sy'n cynnwys y clasuron pop 'Ar y Ffordd', 'Duwies y Palmant' ac 'Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw'.

Aeth y cynhyrchiad ar daith o amgylch Cymru ym mis Gorffennaf eleni fel rhan o ddathliadau diwylliannol Grym y Fflam. Mae'n sioe gerdd fodern, deimladwy a byrlymus, wedi'i seilio ar record hir y band eiconig.

Mae S'neb yn Becso Dam yn adlewyrchu'r tensiwn sy'n wynebu pobl ifanc wrth iddynt ddewis byw bywyd yn y ddinas neu yn y wlad. Mae'n dangos y tensiwn sydd rhwng yr ymdrech i amddiffyn eu treftadaeth a chreu Cymru fyrlymus.

Cawn glywed hanes Lisa Pant Ddu - merch o'r wlad sy'n dyheu am fyw bywyd cyffrous a chyflym y ddinas fawr. Ond pan fo' Lisa'n gadael ei chynefin, mae'n gweld ochr dywyll y ddinas a chaiff ei harwain at ddigartrefedd, puteindra a chyffuriau.

Syniad gwreiddiol Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch, a'r awdures Mari Rhian Owen yw S'neb yn Becso Dam a dyma'r eildro iddynt greu sioe yn seiliedig ar ganeuon Edward H Dafis. 'Plant y Fflam' oedd y cyntaf a hynny ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Llanerchaeron 2010.

Meddai Jeremy, "Mae cân dda yn gân dda am byth ac mae caneuon Edward H yn ganeuon da iawn! Yn 'Plant y Fflam', roedd y band wedi creu stori newydd fytholegol ei naws ag iddi ganlyniad cadarnhaol a hapus.

"Mae S'neb yn Becso Dam ar y llaw arall yn trin materion caled, tywyll ac weithiau arswydus. Mewn un sioe cawn gipolwg craff ar broblemau, dyheadau, rhwystredigaethau, breuddwydion, gobeithion ac ofnau pobl ifanc - ac am y tyndra oesol rhwng eisiau perthyn ac eisiau dianc, a rhwng cydymffurfio a bod yn wahanol.

"Mae albwm Edward H Dafis wedi cynnig fframwaith cryf iawn ar gyfer y naratif ac fe wnaethom ni sylweddoli yn gyflym iawn bod y caneuon - a'r pynciau oedd yn codi ohonynt - yr un mor berthnasol heddiw ag oedden nhw yn y 70au."

Bydd cyfle arall i fwynhau rhifyn Cofio gyda Edward H Dafis yn syth ar ôl darlledu S'neb yn Becso Dam. Yn y rhaglen, bydd grŵp roc Cymraeg enwoca'r 70au yn edrych yn ôl ar y bywyd roc a rôl gyda Lisa Gwilym.