Neidio at y cynnwys

S4C

music

Sopranos

Elin ar drywydd y Sopranos

Elin Manahan Thomas yw un o sopranos ifanc mwyaf dawnus Prydain ac mewn cyfres newydd Sopranos ar S4C bydd y gantores o Abertawe yn teithio i bob cwr o Ewrop i olrhain hanes y gerddoriaeth a'r llais.

Bydd y gyfres chwe rhaglen yn cyfuno golygfeydd mawreddog o ddinasoedd mwyaf trawiadol Ewrop gyda cherddoriaeth swynol fydd yn cael ei pherfformio gan sopranos gorau ein hoes.

Lleisiau dawnus

Yn ogystal ag Elin ei hun, bydd perfformiadau o ganeuon mwyaf poblogaidd y llais gan Orla Boylan o Iwerddon, Ana James o Seland Newydd, Camilla Roberts, y soprano o Wrecsam, Sarah Tynan a Claire Surman o Loegr.

Bydd yr uwchdenor, Robin Blaze o Loegr, y tenor Wynne Evans o Gaerfyrddin a'r bariton, Robert Davies hefyd yn perfformio yn y gyfres fel gwesteion.

Caneuon poblogaidd

A does dim angen bod yn arbenigwr ar gerddoriaeth glasurol i fwynhau'r gyfres, sydd yn un eang ei hapêl. "Mae llawer o'r darnau fyddwn ni'n clywed yn boblogaidd iawn hyd yn oed mewn hysbysebion ar y teledu ac fel cerddoriaeth sy'n gefndir i ffilmiau adnabyddus," meddai Rob Nicholls.

Ymhlith yr eitemau poblogaidd fydd yn cael eu perfformio mae'r aria Mia Babbino Caro gan Puccini, Pie Jesu, allan o Offeren Fauré a'r gân enwog i ddwy soprano, The Flower Duet o'r opera Lakmé gan Delibes.

Lleoliadau prydferth

Bydd pob rhaglen yn dod o leoliad gwahanol gan gychwyn gydag un o ddinasoedd mwyaf rhamantus Ewrop - Fenis, dinas sydd â chysylltiadau agos gyda'r byd cerddoriaeth ac opera yn enwedig. Yma y ganwyd y cyfansoddwr, Antonio Vivaldi yn 1678 a bu'r cyfansoddwr, Claudio Monteverdi farw yno yn 1643 ar ôl byw yn y ddinas am gyfnod.

Ymhob rhaglen, bydd cyfle i glywed llais pur Elin ei hunan yn dehongli gwaith gan wahanol gyfansoddwyr. Mae'n sôn am Bach, Handel a Henry Purcell fel ei hoff gyfansoddwyr ond mae Elin wedi perfformio rhannau blaenllaw mewn operâu gan gyfansoddwyr enwog eraill fel Mozart a Benjamin Britten.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales