Uchafbwyntiau cyngerdd Steve Eaves yng Ngŵyl y Faenol 2007 gan gynnwys perfformiadau o rai o'r hen ffefrynnau ynghyd â chaneuon diweddar o'r gryno ddisg a ryddhawyd yr haf diwethaf, Moelyci.
Heno cawn fwynhau uchafbwyntiau o berfformiad tanllyd un o fandiau ifanc mwyaf llwyddiannus Cymru yng Ngŵyl y Faenol y llynedd. Frizbee fydd y band dan sylw a chawn gyd-ganu'r fferfynnau megis Heyla, Da Ni Nôl a Dora Gusan.
Gyda’r haf ar ein gwarthaf unwaith yn rhagor, bydd cyfres Tân y Ddraig yn bwrw golwg yn ôl dros un o uchafbwyntiau haf 2007. Bydd y gyfres, a gyflwynir gan Lisa Gwilym - cyflwynydd y Sioe Gelf - yn gyfle i fwynhau perfformiadau gwefreiddiol gan rai o fawrion cerddoriaeth boblogaidd Cymraeg yn noson olaf Gŵyl y Faenol. Bachgen lleol sy’n cychwyn y gyfres, Bryn Fôn.
Mae Bryn Fôn yn un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru. Mae wedi canu ar lwyfannau ar hyd a lled Cymru gyda Crysbas, Sobin a’r Smaeliaid a Bryn Fôn a’r Band ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
Mae hefyd yn actor llwyddiannus sydd wedi chwarae rhan Tecwyn Parri yn y rhaglen gomedi, C’mon Midffîld, a Les yn y gyfres ddrama Talcen Caled ar S4C.
Fel un sydd wedi cael ei eni a’i fagu’n lleol, roedd canu yn yr ŵyl yn brofiad arbennig i Bryn Fôn.
“Mae hi’n ŵyl gartrefol braf, reit ar y stepan ddrws. Ond mae rhywun yn ymwybodol bod lot o deulu a ffrindiau yn y gynulleidfa ac mae hynny’n gallu creu pwysau ychwanegol!” meddai.
Er ei fod wedi perfformio yng nghyngerdd Tân y Ddraig bedair gwaith erbyn hyn, doedd cloi'r ŵyl y llynedd o flaen cymaint o bobl ddim yn rhwydd i Bryn.
“Mae’n dipyn o gyfrifoldeb dwi’n meddwl. Mae camu allan a gweld 12,000 o bobl o dy flaen yn tueddu i wneud i’r pen-glinia fynd. Ond mae’r wefr o gael 12,000 yn canu’r gytgan yn ôl atat ti yn cymryd dy wynt.”
Bydd y gyfres chwe rhan yn cynnwys perfformiadau gan nifer o gerddorion poblogaidd eraill gan gynnwys y cyfansoddwr Huw Chiswell, sydd wedi bod yn perfformio ers dros ugain mlynedd. Mae nifer o’i ganeuon megis ‘Y Cwm’ a ‘Rhywbeth o’i Le’ yn cael eu hystyried yn glasuron erbyn hyn.
Bydd Y Sibrydion, sydd wedi cael llwyddiant mawr ers rhyddhau eu halbwm gyntaf JigCal yn 2006 hefyd yn ymddangos yn y gyfres, yn ogystal â Frizbee, Steve Eaves a Fflur Dafydd a’r Barf.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales