Dathlu deng mlynedd ers dechrau Ysgoloriaeth Bryn Terfel bydd cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd eleni, gyda llu o gyn-enillwyr y gystadleuaeth yn dod at ei gilydd ar lwyfan Canolfan y Mileniwm.
Bydd y digwyddiad yn lansio'r Eisteddfod, sy'n cael ei chynnal ym Mae Caerdydd am yr eildro.
Yn ystod y gyngerdd, bydd y seren opera Bryn Terfel yn ymuno â chyn-enillwyr yr ysgoloriaeth gan gynnwys Mirain Hâf, Fflur Wyn, Manon Wyn Williams, Lowri Walton, Rakhi Singh, Rhys Taylor a Rhian Lois Evans.
Yn ymuno â'r perfformwyr ifanc ar y llwyfan bydd enillydd gwobr Olivier ar ddau achlysur ac un o feirniad a mentorau'r ysgoloriaeth, Daniel Evans.
Mae Daniel wedi rhoi'r gorau i droedio llwyfannau Broadway a'r West End am y tro er mwyn rhoi cynnig ar gyfarwyddo. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Celfyddydol Sheffield Theatres.
Mae Bryn, o Bant-glas, Gwynedd, yn edrych ymlaen yn arw at rannu'r llwyfan gyda goreuon yr Urdd dros y degawd diwethaf.
Meddai Bryn, "Mae safon y cystadlu wedi bod yn uchel iawn ar hyd y blynyddoedd ac mae pob un o'r enillwyr yn haeddiannol o ennill yr ysgoloriaeth. Dwi'n hynod falch o weld yr ysgoloriaeth hon yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu o flwyddyn i flwyddyn. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â rhai o'r cyn-enillwyr a gweld sut maen nhw wedi datblygu."
Y gantores amryddawn Caryl Parry Jones yw cynhyrchydd y gyngerdd fawreddog hon ac mae hi hefyd wedi hyfforddi rhai o berfformwyr yr ysgoloriaeth dros y blynyddoedd.
Ychwanega Caryl, "Pa ffordd well o agor yr Eisteddfod na thrwy weld a chlywed cyn enillwyr yr ysgoloriaeth yn perfformio? Bydd hi'n braf gweld sut mae gyrfaoedd yr unigolion wedi datblygu ers dyddiau'r Urdd. Un peth sy'n sicr, bydd yn noson o adloniant amrywiol i ddiddanu'r gynulleidfa."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales