Neidio at y cynnwys

S4C

Cerddoriaeth

Wakestock

Byddwn yn ymuno â'r miloedd o bobl fydd yn heidio i Ben Llŷn er mwyn mwynhau gŵyl donfyrddio a cherddoriaeth fwyaf Ewrop, Wakestock.

Bydd Lisa Gwilym a Griff Lynch yn cyflwyno dwy raglen yn ystod y penwythnos, yn dod â goreuon y cystadlu ar y dŵr a'r gerddoriaeth ar y tir sych. Hefyd bydd cyfle i ail fyw'r cyfan yng nghwmni Huw Stephens fydd yn cyflwyno rhaglen uchafbwyntiau awr o hyd. Mae Huw hefyd yn chwarae set DJ ar y nos Wener.

Y tonfyrddio a'r gerddoriaeth

Cawn gip ar y gorau o'r triciau a'r tasgu yn y cystadlaethau tonfyrddio sy'n cael eu cynnal mewn sawl lleoliad ar hyd yr arfordir gan gynnwys Marina Pwllheli ac Abersoch. Gyda'r nos, mae prif safle'r ŵyl ar gyrion Pwllheli yn dod yn fyw gyda bandiau byd enwog a grwpiau o'r sin roc Gymraeg yn diddanu torfeydd o filoedd. Mae'r arlwy eleni yn cynnwys Ellie Goulding, Chase and Status, The Wombats, Biffy Clyro a'r band o Gymru Kids in Glass Houses. Ymhlith y perfformwyr Cymraeg mae Masters in France, Mr Phormula, Sibrydion, Joy Formidable, Mr Huw a Colorama.

Bydd Griff yn mynd cefn llwyfan i sgwrsio gyda rhai o'r artistiaid cyn ac ar ôl iddyn nhw gamu i'r llwyfan. Hefyd, bydd cyfle i glywed setiau acwstig wrth i rai o'r bandiau alw draw i'r stiwdio.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales