Byddwn yn darlledu cyngerdd arbennig gyda seren hysbysebion Go Compare Wynne Evans ar Sul y Mamau, pan fydd yn dychwelyd adre' i Gaerfyrddin i berfformio yn Theatr y Lyric.
Ond mae'r cyngerdd dim ond yn un hanner o'r pecyn penwythnos am y tenor o Gaerfyrddin sydd wedi dod yn enwog fel y canwr Gio Compario yn yr hysbysebion teledu Gocompare.com.
Fe fydd rhaglen ddogfen yn edrych ar y canwr opera proffesiynol y tu ôl i lais pwerus y Gio dramatig. Cawn ddod i adnabod dyn sy'n caru cerddoriaeth a diwylliant yn angerddol a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i ddylanwad ysbrydoledig ei ddiweddar fam, Elizabeth Evans.
Dros y misoedd diwethaf, bu camerâu yn dilyn y tenor 39 oed sy'n byw yn Llanisien, Caerdydd gyda'i wraig Tanwen a'i blant, Asmay, 9 a Taliesin, 6.
Mae'r misoedd diwetha' wedi bod yn rhai cyffrous gan ei fod wedi recordio ei albwm gyntaf ym Mhrâg, Gwlad Tsiec; lansio'r albwm 'A Song in my Heart' gyda'r label recordio ryngwladol Warner Music; perfformio yn yr opera newydd Anna Nicole: the opera yn y Royal Opera House, Covent Garden a rhyddhau sengl Nadolig ar gyfer elusen Comic Relief. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae'r paratoi ar gyfer y cyngerdd 'nôl adre yn y Lyric.
Trwy'r cyfan, mae'r ddogfen yn portreadu dyn sydd â'i draed yn sownd ar y ddaear tra bod ei lais yn ei arwain at gydnabyddiaeth ryngwladol.
Y tu hwnt i'r agwedd hapus braf tuag at fywyd, mae'n ddyn sy'n rhoi pwyslais mawr ar safonau uchel o berfformio. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr ansawdd a'r amrywiaeth yn yr albwm sydd yn enghraifft wych o ganwr clasurol yn croesi i arddull fwy poblogaidd.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales