Y Stiwdio Gefn

Cofio Nia Ben Aur, y sioe a dorrodd dir newydd

Deugain mlynedd yn ôl, yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974, fe berfformiwyd sioe a dorrodd dir newydd yn y Gymraeg: cynhyrchiad oedd yn dipyn o fenter, a gambl lwyr i'r trefnwyr a'r perfformwyr. Nia Ben Aur oedd opera roc gyntaf yr iaith Gymraeg - ac oherwydd ei llwyddiant, fe sbardunwyd rhes o sioeau cerdd o'r un ysbryd.

Wrth gyrraedd carreg filltir y deugain, mae hi'n gyfnod o hel atgofion ac mi fydd rhifyn arbennig o Y Stiwdio Gefn: Nia Ben Aur ar S4C nos Sadwrn, 16 Awst, yn gyfle i glywed yr hanes gan y rai oedd yn gyfrifol am lwyfannu a pherfformio Nia Ben Aur ym 1974.

Yn cyfuno atgofion â chynnwys deunydd archif sy'n gweld golau dydd am y tro cyntaf, byddwn yn clywed stori'r sioe, o'r cyfansoddi ar gefn pacedi sigaréts i noson y perfformiad cyntaf. Hefyd beth oedd rôl mudiad gwladgarol Adfer, y bardd T Gwynn Jones, ac Andrew Lloyd Webber yn y sioe?

"Y meddwl tu ôl i Nia Ben Aur, a beth oedd yn boblogaidd ar y pryd, oedd canu am y frwydr ddiwylliannol a'r frwydr dros yr iaith Gymraeg. Roedden ni'n sicr wedi ein dylanwadu gan fudiad Adfer ac yn chwilio am rywbeth oedd yn mynd i adlewyrchu hynny. Roedd hanes Nia Ben Aur yng ngherdd Tír na n-Óg T Gwynn Jones yn berffaith," esbonia Cleif Harpwood, aelod o'r band Ac Eraill, gydag Iestyn Garlick, Phil Edwards a Tecwyn Ifan, oedd yn gyfrifol am ddechrau'r prosiect.

Mae Cleif yn credu bod y neges wladgarol yn berthnasol heddiw, er efallai nad yw hynny'n gwbl amlwg i bawb. Mae'r sioe yn dal i gael ei pherfformio'n gyson, gan gynnwys cynyrchiadau Ysgol Maes y Gwendraeth yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.

"Mae'n stori sydd â'r holl agweddau theatrig yn perthyn iddi. Mae 'na ramant, trasiedi, comedi, a dyna hanfod apêl y stori," meddai Cleif, gan geisio esbonio pam ei bod hi'n dal yn boblogaidd heddiw. "Am mai dim ond ryw 15 o ganeuon sydd ynddi, a'r rheiny yn gadwyn o ganeuon, mae pobl wedi medru cyfrannu elfennau eu hunain at y gwaith a defnyddio'r caneuon fel asgwrn cefn."

Mae'r stori a'r melodïau wedi goroesi'r degawdau ac mi fydd y rhaglen Y Stiwdio Gefn: Nia Ben Aur yn brawf o hynny wrth i artistiaid cyfoes berfformio'r caneuon. Yn eu plith mae: Gwilym Bowen Rhys, Miriam Isaac, Elin Fflur, Casi, Rheinallt Rees, Ynyr Roberts, Arwel Lloyd 'Gildas', Corws Prifysgol y Drindod Dewi Sant, a Grŵp H: Elain Llwyd, Ffion Llwyd a Mirain Haf.

Ond beth am Andrew Lloyd Webber? Beth oedd ei ddylanwad e ar y cynhyrchiad?

"Roedden ni ishe gweld sut roedd pobl eraill yn ymdrin â thema fel hon, ar lwyfan mwy," meddai Cleif, am eu trip i'r West End i weld Jesus Christ Superstar. "Mae 'na elfennau o 'Superstar' yn Nia Ben Aur, yn enwedig cymeriad y Brenin Ri. Beth oedd yn ddiddorol oedd gweld pob genre cyfoes ar un llwyfan: rock, West Coast, power ballads. Oni'n sylweddoli y gallwn ni wneud yr un peth a chreu sioe oedd yn apelio at bob lefel."

Fel y cyntaf i fentro cynhyrchiad o'r fath yn y Gymraeg, doedd dim dewis ond troi at y West End am syniadau. Ond fe lwyddodd Nia Ben Aur i osod ei safon ei hunan, ac ysbrydoli math newydd o berfformio yn y Gymraeg. Efallai ei bod hi'n antur ac yn gambl ar y pryd, ond roedd Nia Ben Aur yn llwyddiant ym 1974, ac mae hi'n parhau i lwyddo heddiw.